TEITL SWYDD: Prif Ddadansoddwr Partneriaeth yr Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT)
GRADD: PO1/2 – £41,487.00 – £47,046.00
LLEOLIAD: Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
ORIAU: 37 awr yr wythnos
CYFNOD: Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2028 (A ariennir gan Grant Partneriaeth Lleihau Trais Difrifol)
FETIO: MV/SC
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru (CHTh) yn chwilio am Brif Ddadansoddwr Partneriaeth i ymuno â’r Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT). Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at ddull iechyd y cyhoedd amlasiantaethol De Cymru o atal trais, ymyrryd yn gynnar a newid y system.
Bydd Prif Ddadansoddwr Partneriaeth yr Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT) yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi’r Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT) i gyflawni ei rhaglen waith, sy’n gyson â Chynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder (2025-2029) Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a Strategaeth Atal a Lleihau Trais De Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth rhagweithiol o ansawdd uchel mewn perthynas â gwybodaeth, ymchwil a chasglu data, adolygu a dehongli i Bennaeth yr Uned Atal a Lleihau Trais a thîm ehangach yr Uned.
Bydd cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys helpu’r Uned i gyflawni dyletswyddau’r Grant Lleihau Trais a’r Ddyletswydd Trais Difrifol, gan gynnwys cefnogi dealltwriaeth o effaith ymyriadau a ariennir; cynnal Asesiad o Anghenion Strategol Trais Difrifol bob blwyddyn; a gweithio gyda Phartneriaethau Atal lleol i goladu a dadansoddi data ar gyfer eu Hasesiadau o Anghenion Strategol perthnasol. Bydd y rôl yn cynnwys helpu gyda’r gwaith o gyflawni’r camau atal a lleihau trais yng Nghynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder a Strategaeth Atal a Lleihau Trais De Cymru. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi gofynion data, dadansoddi a gwybodaeth Bwrdd Strategol Atal a Lleihau Trais De Cymru ac is-grwpiau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad o weithio mewn rôl Dadansoddi Data a Gwybodaeth, yn fedrus wrth ddefnyddio rhaglenni Microsoft ac yn dangos lefel uchel o allu cyfrifiadurol o ran prosesu geiriau, meddalwedd taenlen a chronfa ddata, gan gynnwys y gwaith cymhleth o drin data. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu llunio adroddiadau rhesymegol a strwythuredig o ansawdd uchel a bydd yn hyderus yn gweithio mewn amgylchedd amlasiantaethol prysur ac yn gallu meithrin cydberthnasau gwaith cadarn ar draws y meysydd plismona, iechyd, addysg, awdurdodau lleol, a’r trydydd sector.
Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ymdrechion atal a lleihau trais ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled De Cymru.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru ond mae trefniadau gweithio ystwyth ac o bell ar waith.
I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr a llythyr eglurhaol manwl sy’n dangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y rôl hon (gan roi sylw i feini prawf y rhestr fer a nodir ym Mhroffil y Rôl). Dylech hefyd gwblhau’r Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro ac anfon yr holl ddogfennau i: hrcommissioner@south-wales.police.uk erbyn 23/04/2026 12YP Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Dogfennau Ategol
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau