O ganlyniad i brofion cyffuriau wrth arestio, gall yr heddlu brofi pobl yn y ddalfa am bresenoldeb opiadau, fel heroin neu gocên, er mwyn deall yn well rôl defnyddio cyffuriau mewn rhai troseddau, a elwir yn “droseddau sbarduno”, fel byrgleriaeth a lladrad.
Mae profion cyffuriau yn adnodd pwerus ar gyfer adnabod y defnydd o gyffuriau. Gall prawf cyffuriau positif ar gyfer defnyddio heroin, crac neu gocên sicrhau bod y person yn gallu cael mynediad at driniaeth a chymorth arall i fynd i’r afael â’i droseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.
Mae’r Swyddfa Gartref yn cynnig cyfleoedd i geisio cyllid i wella/ehangu prawf cyffuriau wrth arestio, mae Swyddfa’r Comisiynydd yn cefnogi hyn mewn partneriaeth â HDC ac yn arwain ar geisiadau am gyllid gan y Swyddfa Gartref.
Enghreifftiau o gyllid a ddyfarnwyd yn flaenorol:
Llwyddodd Swyddfa’r Comisiynydd i gael £95,000 ar draws y dwy flynedd wrthi’n darparu.
Bu’r cyllid ychwanegol yn gyfrifol am ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer goramser er mwyn cynnig darpariaeth ehangach ar draws dalfeydd Heddlu De Cymru.
Ar draws y 2 flynedd wrthi’n darparu, cyflawnwyd y canlynol:
- 1690 – Cyfanswm nifer y cysylltiadau – cwrdd wyneb yn wyneb mewn cell
- 4164.6 – Cyfanswm nifer yr oriau ychwanegol wedi’u gweithio
- 3626 – Oriau sgrinio o bell
- 1202 – Cyfanswm nifer y profion cyffuriau y gofynnwyd amdanynt ar draws yr oriau ychwanegol