Teitl Swydd: Pennaeth Cyfiawnder Troseddol a Dioddefwyr
Gradd: PO4/5 £48,894 gan godi i £54,879
Lleoliad: Pencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
Oriau: 37
Cyfnod: Cyfnod Penodol o 12 Mis
Lefel Fetio Ofynnol: MV/SC
Y Rôl a Chyfrifoldebau
Mae’n bleser gallu gwahodd ceisiadau ar gyfer y rôl Pennaeth Cyfiawnder Troseddol a Dioddefwyr. Swydd arweinyddiaeth strategol sy’n cynnig cyfle i wella prosesau Cyfiawnder a Chymorth i Ddioddefwyr yn Ne Cymru.
Gan weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Cyfiawnder i gydlynu partneriaethau amlasiantaethol, goruchwylio’r gwaith o ddatblygu polisïau a sicrhau bod hawliau ac anghenion dioddefwyr yn rhan ganolog o hyd o flaenoriaethau cyfiawnder y rhanbarth. Byddwch yn hanfodol wrth integreiddio gwaith y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol, gan fynd i’r afael â heriau systemig a gwella canlyniadau cyfiawnder i gymunedau.
Mae hwn yn gyfle unigryw i gael effaith wirioneddol o fewn tirwedd cyfiawnder troseddol yn Ne Cymru. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol dynodedig, gan helpu’r Comisiynydd gyflawni ei blaenoriaethau o sicrhau system deg a chyfiawn gan sicrhau bod dioddefwyr yn rhan ganolog o’r system.
Rydym yn chwilio am:
- Unigolyn sy’n meddwl yn strategol â phrofiad o Gyfiawnder Troseddol a gwybodaeth am wasanaethau cymorth i ddioddefwyr
- Sgiliau arwain cadarn, yn arbennig wrth reoli cydweithio amlasiantaethol
- Meddu ar ddealltwriaeth fanwl o bolisi cyfiawnder a fframweithiau cyfreithiol
- Ymrwymiad i degwch, tryloywder a chyflwyno gwelliannau cyfiawnder sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr
- Galluoedd dadansoddi a phenderfynu cryf i gefnogi diwygio cyfiawnder parhaus
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig:
- Cyflog cystadleuol sy’n adlewyrchu lefel uwch a chyfrifoldebau’r rôl
- Cynllun pensiwn rhagorol
- Cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol
- Cyfle i wneud gwahaniaeth sylweddol i’r system Cyfiawnder Troseddol
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
Mae Heddlu De Cymru a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ymrwymedig i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob ymgeisydd cymwys ni waeth beth fo’i gefndir. Mae’r rôl yn gofyn am weithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid a gall fod angen teithio ledled De Cymru ac yn genedlaethol o bryd i’w gilydd. Mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio gyda’r nos ac ar y penwythnos er mwyn mynychu cyfarfodydd partneriaeth a digwyddiadau cymunedol.
Am ragor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Sian Rees (Cyfarwyddwr Cyfiawnder ar: sian.rees5@south-wales.police.uk.
I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr, llythyr eglurhaol manwl a Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro i hrcommissioner@south-wales.police.uk gan nodi sut rydych yn bodloni gofynion y rôl hon erbyn 20.07.2025 5YP. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn llai na ffont maint 10 nac yn fwy na dwy ochr o A4.
Dogfennau Ategol
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau