TEITL SWYDD: Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

GRADD: PO 4/5 £50,949.00 – £57,186.00

LLEOLIAD: Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr

ORIAU: 37

CYFNOD: Cyfnod penodol/secondiad tan fis Mai 2028

FETIO: MV/SC (Fetio Rheoli/Cliriad Diogelwch)

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, ar adeg hollbwysig o newid sylweddol. Bydd y Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn gyfrifol am arwain gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am weddill tymor y Comisiynydd, gan sicrhau bod perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol yn cael eu cynnal a bod y cyhoedd yn cael cyfathrebiadau effeithiol am waith y Swyddfa wrth i ni symud drwy gyfnod pontio.

Bydd angen i ddeiliad y swydd fynd ati’n gyflym i feithrin perthnasoedd cryf ar draws Swyddfa’r Comisiynydd, â chydweithwyr yn nhîm cyfathrebu Heddlu De Cymru, y cyfryngau, a rhanddeiliaid allweddol eraill er mwyn hyrwyddo rhaglen o weithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu sy’n gydlynol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar effaith.

Dyma swydd arweinyddiaeth allweddol yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, Partneriaethau ac Atal, ac mae angen unigolyn deinamig a dylanwadol o safon sy’n gallu gweithio’n strategol wrth addasu at newid ac sy’n meddu ar wybodaeth weithredol o’r dirwedd ymgysylltu a chyfathrebu ledled de Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y rôl, e-bostiwch Dr Cerys Miles, Cyfarwyddwr Cymunedau, Partneriaethau ac Atal: cerys.miles@south-wales.police.uk

I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr, llythyr eglurhaol manwl a Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro i hrcommissioner@south-wales.police.uk yn nodi sut rydych yn bodloni gofynion y rôl hon erbyn 12YP ar 28/08/2026. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.

Dogfennau Ategol

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Proffil y Rôl

Gwybodaeth Bersonol a Gwybodaeth Monitro