Yn Eich Cymuned
Yr wythnos hon, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools, wedi treulio amser gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau ledled Caerdydd fel rhan o’i rhaglen ymgysylltu Yn Eich Cymuned.
Mae diwrnodau Yn Eich Cymuned y Comisiynydd yn ymweliadau ymgysylltu dynodedig er mwyn i’r Comisiynydd gwrdd yn rheolaidd ag amrywiaeth o grwpiau cymunedol amrywiol, lleoliadau addysgol, busnesau lleol a mentrau wedi’u harwain gan y gymuned, mewn perthynas â’r amcanion yng Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder.
Yr wythnos hon, gwnaeth y Comisiynydd gyfarfod â’r canlynol:
- Staff a hyfforddeion yn Vision 21 – canolfan gymunedol fywiog sy’n cynnig cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl ag anableddau dysgu
- Canolfan Siopa Dewi Sant, yn cyfarfod â Rheolwr y Ganolfan a’r Arolygydd Plismona Lleol
Mae cefnogi grwpiau anableddau dysgu, fel Vision 21 a nifer o grwpiau eraill ledled De Cymru yn cysylltu’n uniongyrchol â chyflawni amcan Blaenoriaeth 3 yng Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder – Cadw pobl a chymunedau sy’n agored i niwed yn ddiogel rhag achosion o gamfanteisio a niwed.
Yn ystod y cyfarfod hwn a sgyrsiau blaenorol â’r gymuned ehangach, mae themâu tebyg wedi cael eu codi – diffyg dealltwriaeth gan yr heddlu o bobl ag anableddau dysgu a’u bod yn teimlo’n anniogel yn eu cymuned.
Yn olaf, gwnaethom gwrdd â Rheolwr Canolfan Siopa Dewi Sant 2, gan ddechrau drwy drafod buddsoddiadau mewn seilwaith, staffio, casglu data, a dull partneriaeth o ddiogelwch ar gyfer y dyfodol. Yna, cafodd hyn ei ategu gyda mewnbwn gan yr Arolygydd Plismona Lleol, gan gynnig rhagor o wybodaeth am y gwaith sy’n digwydd er mwyn creu canol dinas fwy diogel a chroesawgar i bawb.
Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i ddilyn diwrnodau Yn Eich Cymuned yn y dyfodol a chael rhagor o wybodaeth am weithgareddau diweddaraf y Comisiynydd.
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Ariannu Diogelwch Gyda’n Gilydd – Ein Heddlu, Ein Cymuned, Ein Llais
Datganiad ar y Cyd gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru



