
Wythnos diwethaf, aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac aelodau o’r tîm i Ŵyl Mela Caerdydd ym Mae Caerdydd. Mae’r digwyddiad yn arddangos amrywiaeth eang o ddiwylliannau, cerddoriaeth, dawns, celfyddydau, ffasiwn a bwyd. Drwy gydol y dydd, cynhaliwyd perfformiadau byw i’r ymwelwyr ac roedd gweithgareddau i’r plant ac amrywiaeth o weithdai a stondinau.
Mae tîm y Comisiynydd wedi bod yn falch o gefnogi a mynychu’r digwyddiad hwn ers sawl blwyddyn ac roedd yn awyddus unwaith eto eleni i fod yn rhan o’r dathliadau. Siaradodd y tîm â channoedd o bobl drwy gydol y dydd am rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a chafodd adborth gwerthfawr gan y rhai a oedd yn bresennol am blismona lleol.
Dywedodd Emma Wools, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a aeth i’r digwyddiad, “Mae’n bleser mynd i’r ŵyl fywiog hon lle gall pobl ddod at ei gilydd i ddathlu pob diwylliant. Mae meithrin cydberthnasau cadarnhaol â chymunedau amrywiol a cheisio gweithio gyda grwpiau a sefydliadau lleol tuag at greu gwell cydlyniant cymunedol yn flaenoriaeth i mi yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae bod yn bresennol mewn digwyddiadau cymunedol fel Gŵyl Mela Caerdydd yn rhoi cyfle gwych i mi a fy nhîm gynyddu ymwybyddiaeth o fy rôl ac, yn bwysicach fyth, roi cyfle i bobl rannu eu barn a’u profiadau â ni.”
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
“Yn ddiogel, yn cael eich clywed, yn cael eich parchu”: Mae’r Comisiynydd Emma Wools yn lansio’r Cynllun Polisi, Trosedd a Cyfiawnder cyntaf ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Ne Cymru

Yn Eich Cymuned – Merthyr Tudful, Caerdydd ac Abertawe
