Llu o bethau i’w gweld yn Sioe Awyr Cymru

aelodau o dîm y Comisiynydd yn Sioe Awyr Cymru

Roedd yn bleser gan aelodau o’r tîm fynd i Sioe Awyr Cymru yn Abertawe ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf a dydd Sul 7 Gorffennaf.

Roedd Sioe Awyr Cymru, digwyddiad poblogaidd a gynhelir yn yr haf ym Mae Abertawe, yn cynnwys arddangosiadau erobatig anhygoel, awyrennau milwrol o’r radd flaenaf, ac amrywiaeth eang o weithgareddau teuluol.

Roedd y sioe, a ddenodd fwy na 200,000 o ymwelwyr dros y penwythnos, yn gyfle gwerthfawr i aelodau o dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hyrwyddo rôl a chyfrifoldebau’r Comisiynydd newydd, Emma Wools.

Roedd y tîm yn falch o gael y cyfle i siarad yn uniongyrchol â phobl am faterion sy’n eu poeni ac yn effeithio arnynt lle maent yn byw neu’n gweithio, a’u profiadau o blismona lleol yn Ne Cymru. Bydd yr adborth hwn yn helpu’r Comisiynydd a’i thîm i lywio a datblygu Cynllun yr Heddlu a Throseddu, gan sicrhau bod blaenoriaethau’r cynllun yn adlewyrchu anghenion a safbwyntiau pobl leol, dioddefwyr, a chymunedau.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion

“Yn ddiogel, yn cael eich clywed, yn cael eich parchu”: Mae’r Comisiynydd Emma Wools yn lansio’r Cynllun Polisi, Trosedd a Cyfiawnder cyntaf ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Ne Cymru

Members of Gellideg Foundation Group

Yn Eich Cymuned – Merthyr Tudful, Caerdydd ac Abertawe

Summer Placement Training Programme Alumni

Gwneud Plismona sy’n Addas ar gyfer y Dyfodol – ‘Rhaglen Hyfforddi Lleoliad Haf’ Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools