Edrych yn ôl ar Fenter Strydoedd Mwy Diogel yr Haf
Yn ôl ym mis Mehefin, lansiodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools, Fenter Strydoedd Mwy Diogel yr Haf – sef menter atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol trefi ledled De Cymru dros fisoedd yr haf.
Fe’i comisiynwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref a’i chefnogi gan Gronfa Hotspot Action y Swyddfa Gartref. Datblygodd y Comisiynydd gynllun cyflawni o raglenni gorfodi’r heddlu wedi’u targedu a gweithgareddau partneriaeth sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder.
Rhwng mis Mehefin a mis Medi, ymwelodd y Comisiynydd â mannau problemus a chanol trefi ledled De Cymru i gwrdd â phartneriaid, i siarad â thrigolion a busnesau ac i gael dealltwriaeth o effaith y fenter hon ar gymunedau lleol.
Dywedodd y Comisiynydd:
“Mae pawb yn haeddu cael teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau ac yng nghanol eu trefi. Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi gweld Menter Strydoedd Mwy Diogel yr Haf yn dod â phartneriaid ynghyd i gyflawni mentrau sy’n adfer ymddiriedaeth mewn plismona cymunedol a diogelwch mewn cymunedau lleol.”
Drwy gydol yr haf, mae cyllid Menter Strydoedd Mwy Diogel yr Haf wedi cefnogi’r gwaith o gyflawni dull wedi’i dargedu sy’n seiliedig ar le o leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein trefi a’n dinasoedd drwy’r canlynol:
- Gweithgareddau allgymorth ac ymyrryd yn gynnar i bobl ifanc
- Cynyddu gwelededd a phresenoldeb yr heddlu
- Gwella seilwaith diogelwch a diogelu
- Ymgysylltu â manwerthwyr penodedig
Ychwanegodd y Comisiynydd:
“Mae pwysigrwydd gwaith partneriaeth ataliol wedi cael ei bwysleisio yn yr effaith a gafwyd eisoes dros gyfnod yr haf. Mae mynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu, a chefnogi cymunedau lleol yn hanfodol i weithio tuag at greu De Cymru ddiogel, gyfiawn a chynhwysol”
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
“Yn ddiogel, yn cael eich clywed, yn cael eich parchu”: Mae’r Comisiynydd Emma Wools yn lansio’r Cynllun Polisi, Trosedd a Cyfiawnder cyntaf ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Ne Cymru

Yn Eich Cymuned – Merthyr Tudful, Caerdydd ac Abertawe
