Ariannu Diogelwch Gyda’n Gilydd – Ein Heddlu, Ein Cymuned, Ein Llais
Mae Emma Wools, eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi lansio ei harolwg ‘Ariannu Diogelwch Gyda’n Gilydd’ i ofyn am eich barn am gynigion i ariannu’r heddlu a sut y gellir cefnogi plismona er mwyn creu De Cymru diogel, cyfiawn a chynhwysol.
Un o brif gyfrifoldebau’r Comisiynydd yw gosod cyllideb Heddlu De Cymru a phenderfynu faint rydych yn talu tuag at blismona drwy dreth gyngor. Cyn gwneud y penderfyniad hwn, mae’r Comisiynydd yn gwahodd trigolion De Cymru i rannu eu barn am faint maent yn barod i’w dalu tuag at blismona lleol, er mwyn sicrhau y caiff fforddiadwyedd a diwallu anghenion yr heddlu eu hystyried.
“Rydych wedi dweud wrthyf eich bod am gael plismona mwy gweladwy, cysylltiedig sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Er mwyn darparu hyn a blaenoriaethau eraill yn fy Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder, bydd angen buddsoddiad a ystyrir yn ofalus, er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu rheoli’n briodol.”
“Mae sicrhau y gall Heddlu De Cymru ddarparu plismona rhagweithiol sy’n blaenoriaethu atal troseddau a chefnogi cymunedau ledled De Cymru yn hanfodol wrth ddarparu’r plismona yr hoffech ei gael a mannau diogel i bawb.”
Mae blaenoriaethau’r Comisiynydd, fel y nodir yn ei Chynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder, yn adlewyrchu eich adborth o ran yr hyn a hoffech gan blismona lleol a gwasanaethau yn eich cymuned. Er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau hyn, mae’n rhaid ystyried cyllideb er mwyn cydbwyso costau sy’n cynyddu, toriadau cyllidebol a chwyddiant yn erbyn fforddiadwyedd.
Mae barn pawb yn bwysig! Bydd eich adborth yn helpu i lywio penderfyniad y Comisiynydd cyn i’r gyllideb gael ei phennu ym mis Ionawr 2026.
Mae’n bwysig nodi er gwaethaf cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU y caiff rôl Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ei diddymu yn 2028, nad yw ein cyfrifoldebau a’n dyletswyddau wedi newid.
Mae gennym ofyniad cyfreithiol i bennu cyllideb yr heddlu a phraesept flynyddol y dreth gyngor o hyd, gan sicrhau bod gan Heddlu De Cymru adnoddau priodol i gadw ein cymunedau’n ddiogel.
Bydd y penderfyniadau a wnawn eleni yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaeth y mae’r cyhoedd yn ei gael nawr a thros y blynyddoedd sydd i ddod.
Mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i gynllunio’n gyfrifol, cynnal sefydlogrwydd a diogelu plismona rheng flaen drwy gydol y cyfnod hwn o newid.
Bydd ond yn cymryd ychydig funudau i gwblhau’r arolwg cyflym hwn ac mae eich barn wir yn cyfrif.
Bydd yr arolwg yn cau ddydd Mercher 14 Ionawr 2026
Mynegwch eich barn yma
Hawdd ei ddarllen
Os hoffech gopi papur o’r arolwg, cysylltwch â’n tîm:
01656 869366 | engagement@south-wales.police.uk | Ty Morgannwg, Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Yn Eich Cymuned – Caerdydd
Datganiad ar y Cyd gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru