Dirprwy Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Rhannu Swydd)

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools, yn awyddus i benodi dau Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (DGHTh) i rannu cyfrifoldebau’r rôl hollbwysig hon. Mae gweledigaeth newydd Emma, a amlinellir yn ei Chynllun yr Heddlu a Throseddu sydd newydd ei lansio, yn canolbwyntio ar blismona wedi’i lywio gan y gymuned, ymyrryd yn gynnar, a chydweithio’n gryfach ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y cynllun a rôl y Comisiynydd yma:

Hafan – Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Bydd pob Dirprwy yn gweithio’n agos gydag Emma ac yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni’r blaenoriaethau strategol a nodwyd yn ei Chynllun. Bydd y ddau ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r Comisiynydd ar y cyd wrth ddwyn Heddlu De Cymru i gyfrif, gan feithrin cydberthnasau cadarn â phartneriaid, a sicrhau y caiff lleisiau’r gymuned eu clywed ym mhob rhan o’r rhanbarth.

Er mwyn sicrhau ymatebolrwydd a chynrychiolaeth leol well ledled De Cymru, bydd ardal ddaearyddol benodol a chyfrifoldebau yn cael eu neilltuo i bob Dirprwy, a fydd yn galluogi presenoldeb mwy penodol ac ymrwymedig mewn cymunedau lleol.

Mae hyn yn gyfle unigryw i ddau unigolyn profiadol ac angerddol gyfrannu at ddiogelwch, cyfiawnder, a llesiant pobl De Cymru o dan arweiniad Emma Wools. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â sgiliau arwain cryf, profiad o wasanaeth cyhoeddus, ac ymrwymiad dwfn i ymgysylltu â’r cyhoedd ac atebolrwydd. Bydd dealltwriaeth gryf o gydraddoldeb ac amrywiaeth a chymunedau De Cymru yn hanfodol.

Er mwyn ymgeisio, cyflwynwch eich CV a datganiad ategol (hyd at 2 ochr A4) gan nodi sut mae eich gwybodaeth a’ch profiad yn cyflawni cyfrifoldebau allweddol y rôl yn ogystal a’r ffurflen manylion personol a wybodaeth fonitro. Anfonwch at HRCommissioner@south-wales.police.uk

Rolau rhan amser ydynt, a chaiff trefniadau gweithio hyblyg eu hystyried. Nid yw’r swydd hon yn wleidyddol gyfyngedig.

Mae’r rolau yn gontractau cyfnod penodol sy’n dod i ben ar yr un adeg â swydd y Comisiynydd, sef mis Ebrill 2028 ar hyn o bryd.

Cyflog: £53,000 Pro Rata.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 01.09.2025 12YP.  Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.

I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Lee Jones, Prif Weithredwr. ( Lee.Jones6@south-wales.police.uk )

 

Dogfennau Cysylltiedig

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau