TEITL SWYDD: Dirprwy Bennaeth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth   

GRADD: P03 (£47,046 – £50,949) Pro Rata

LLEOLIAD: Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr

YN ADRODD I: Pennaeth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth

ORIAU: 22

CYFNOD: Blwyddyn

FETIO: MV/SC (Fetio Rheoli/Cliriad Diogelwch)

Rydym am benodi Dirprwy Bennaeth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth brwdfrydig, medrus a llawn cymhelliant i ymuno â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r Pennaeth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth i gyflawni cyfrifoldebau statudol y Swyddfa, gan sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn a phrosesau goruchwylio effeithiol ar waith a bod y swyddfa yn cydymffurfio â fframweithiau deddfwriaethol a rheoliadol perthnasol. Mae’r rôl yn gofyn am lefel uchel o allu i arfer barn broffesiynol, disgresiwn ac arbenigedd technegol, ynghyd ag ymrwymiad cryf i werthoedd gwasanaeth cyhoeddus. Mae’n chwarae rôl hollbwysig wrth gynnal ac atgyfnerthu hyder y cyhoedd mewn plismona a phrosesau goruchwylio.

Am drafodaeth anffurfiol neu i gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Laura Armitt: laura.armitt@south-wales.police.uk

I wneud cais, cyflwynwch eich CV yn ogystal â datganiad ategol heb fod yn fwy na 1,500 o eiriau yn amlinellu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch profiad sy’n berthnasol i’r rôl yn glir.Dylech hefyd gwblhau’r Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro ac anfon yr holl ddogfennau i: hrcommissioner@south-wales.police.uk erbyn 12PM 19.06 2026. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.

 

Dogfennau ategol

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Dirprwy Bennaeth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth Proffil y Rôl

Gwybodaeth Bersonol a Gwybodaeth Monitro