TEITL SWYDD: Dadansoddwr yr Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT)
GRADD: 6/SO1- £33,603.00 – £39,276.00
LLEOLIAD: Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
ORIAU: 37 awr yr wythnos
CYFNOD: Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028/Cyfle am secondiad neu fenthyciad (A ariennir gan Grant Partneriaeth Lleihau Trais Difrifol y Swyddfa Gartref).
FETIO: MV/SC (FETIO RHEOLI/CLIRIAD DIOGELWCH)
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru (CHTh) yn chwilio am Ddadansoddwr i ymuno â’r Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT). Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at ddull iechyd y cyhoedd amlasiantaethol De Cymru o atal trais, ymyrryd yn gynnar a newid y system.
Bydd deiliad y swydd yn mynd ati’n rhagweithiol i gasglu a dadansoddi data o ansawdd uchel o sawl ffynhonnell mewn perthynas â’r canlynol:
- Helpu’r gwaith o gyflawni camau yn y Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder sy’n berthnasol i atal troseddau a lleihau trais;
- Helpu’r Uned Atal a Lleihau Trais i gyflawni dyletswyddau’r Grant Partneriaeth Lleihau Trais Difrifol a’r Ddyletswydd Trais Difrifol;
- Helpu i gyflawni’r camau a nodwyd yn Strategaeth Atal a Lleihau Trais De Cymru;
- Cefnogi gofynion data a dadansoddi Bwrdd Strategol Atal a Lleihau Trais De Cymru ac is-grwpiau.
Prif ffocws y rôl fydd cefnogi Prif Swyddog Data a Gwybodaeth yr Uned Atal a Lleihau Trais a phartneriaid ehangach i lunio Asesiadau o Anghenion Strategol Trais Difrifol ar gyfer de Cymru ac ardaloedd lleol yn flynyddol. Drwy goladu ac archwilio data, nodi patrymau, risgiau a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod cudd-wybodaeth ar gael i’r Uned Atal a Lleihau Trais a phartneriaid er mwyn llywio’r gwaith o wneud penderfyniadau yn ogystal â phrosesau cydweithio amlasiantaethol. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo’r swyddfa yn ehangach hefyd drwy fonitro a gwerthuso data perfformiad sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder, gan ganolbwyntio ar Feysydd Blaenoriaeth 1, 2 a 3 yn benodol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ddadansoddi ystadegau a bydd yn fedrus wrth ddefnyddio rhaglenni Microsoft, meddalwedd taenlen a chronfa ddata, ynghyd â’r gwaith cymhleth o drin data. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyflwyno data mewn adroddiadau clir, cynhwysfawr a rhesymegol.
Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ymdrechion atal a lleihau trais ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled De Cymru.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru ond mae trefniadau gweithio ystwyth ac o bell ar waith.
I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr a llythyr eglurhaol manwl sy’n dangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y rôl hon (gan roi sylw i feini prawf y rhestr fer a nodir ym Mhroffil y Rôl). Dylech hefyd gwblhau’r Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro ac anfon yr holl ddogfennau i: hrcommissioner@south-wales.police.ukerbyn 12YP 10/08/2026. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Dogfennau Ategol
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau