TEITL SWYDD: Cynorthwyydd Gweinyddol
GRADD: 3/4 £24,222 – £28,653
LLEOLIAD: Pen-y-bont ar Ogwr, Pencadlys yr Heddlu
ORIAU: 37 awr yr wythnos – llawn amser
CYFNOD: Cyfnod penodol o ddwy flynedd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi gwaith tîm Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Mae’r tîm gweinyddol yn rhan annatod o’r gwaith o sicrhau y caiff Swyddfa’r Comisiynydd ei rhedeg yn ddidrafferth. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a dynamig sy’n llawn cymhelliant i ymuno â’r tîm.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r tîm gweithredol drwy reoli dyddiaduron, paratoi ar gyfer cyfarfodydd strategol allweddol a chyflawni tasgau gweinyddol arferol eraill. Felly, mae angen rhywun â sgiliau trefnu rhagorol sy’n gallu gweithio ar ei liwt ei hun, dilyn prosesau gwneud penderfyniadau cadarn a gweithio’n dda ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm ehangach.
I wneud cais am y rôl hon, cwblhewch y ffurflen gais a gwybodaeth monitro isod erbyn 12yp Dydd Gwener yr 2il o Fai 2025.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Vickie Samuel vickie.samuel@south-wales.police.uk
Dogfennau Cysylltiedig
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau