Mae Swyddfa’r Comisiynydd hefyd yn aelod o’r Byrddau Cynllunio Ardal (APBs) ledled de Cymru (Bae’r Gorllewin, Cwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a’r Fro). Mae Byrddau Cynllunio Ardal yn cynnwys sefydliadau partner sy’n gweithio tuag at ddull system gyfan. Mae partneriaid y Byrddau yn rhannu’r cyfrifoldeb am ddatblygu, darparu a gwella gwasanaethau defnyddio sylweddau effeithlon ac effeithiol, i ddiwallu anghenion y boblogaeth.

Mae’r Byrddau Cynllunio Ardal yn gweithio i gyflawni cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru: Cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019 i 2022 | LLYW.CYMRU yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru: canllawiau-diwygiedig-ar-gyfer-byrddau-cynllunio-ardal-camddefnyddio-sylweddau-2017.pdf