Crynodeb
Mae Strategaeth Atal a Lleihau Trais De Cymru yn cynnig dull rhanbarthol o atal a lleihau trais difrifol ar y cyd. Wedi’i llunio ar y cyd gan bartneriaid ledled de Cymru, mae’n fframwaith strategol clir ar gyfer gweithio ar y cyd i wneud ein cymunedau’n fwy diogel. Mae’r dull cydweithredol yn adlewyrchu gofynion y Ddyletswydd Trais Difrifol, gan gydnabod bod atal trais yn gyfrifoldeb a rennir.
Fel cynullydd partneriaid o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol, daeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu â sefydliadau (‘awdurdodau penodedig’) ynghyd i ddatblygu’r weledigaeth a rennir hon a’r gyfres o flaenoriaethau sydd bellach yn cael eu defnyddio i hyrwyddo strategaethau a chynlluniau cyflawni lleol sy’n ymateb i anghenion cymunedau unigol. Mae Uned Atal a Lleihau Trais De Cymru yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth gefnogi’r gwaith hwn, gan helpu i feithrin dealltwriaeth a rennir o anghenion lleol, atgyfnerthu’r sylfaen dystiolaeth, ymgynnull partneriaid drwy fyrddau lleol a rhanbarthol, a chomisiynu, cydlynu a gwerthuso ymyriadau ledled y rhanbarth.
Drwy weithio ar y cyd, rhannu gwybodaeth a chydlynu adnoddau, gallwn ddeall achosion trais yn well a chymryd camau i atal niwed cyn iddo ddigwydd. Wedi’i lywio gan Fframwaith Cymru Heb Drais, mae ein dull yn ystyried bod modd atal trais, ac nid yw’n anochel. Mae’n canolbwyntio ar ddulliau cydweithredol wedi’u llywio gan dystiolaeth a thrawma ac sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol, yn cefnogi’r rheini sydd fwyaf mewn perygl ac yn atgyfnerthu cymunedau.