Crynodeb
Mae paneli craffu yn adnodd pwysig ar gyfer sicrhau bod yr heddlu yn cael eu dwyn i gyfrif am eu defnydd o ddatrysiadau y tu allan i’r llys (OoCD). Panel thematig oedd y Panel Craffu ar Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys i Oedolion a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2023 a edrychodd yn benodol ar achosion yn cynnwys dioddefwyr o gefndir Ethnig Leiafrifol. Bu’r panel yn craffu ar yr achosion er mwyn penderfynu a oedd cyhoeddi’r datrysiadau’n gywir, yn ogystal ag edrych ar broses a safbwyntiau’r dioddefwyr wrth wneud y penderfyniad er mwyn archwilio a ddilynwyd y gweithdrefnau cywir ac a gafodd y dioddefwyr wasanaeth o ansawdd uchel. Gellir bwrw golwg ar y canfyddiadau yn yr adroddiad isod.