TEITL SWYDD: Swyddog Cymorth Gweinyddol

GRADD:  5/6 (£30,333 – £35,772)

LLEOLIAD:  Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr

YN ADRODD I: Cydgysylltydd Busnes

ORIAU: 37

CYFNOD:  18 mis

FETIO: MV/SC

AR AGOR I: 26/02/2026 12YP

Mae cyfle wedi codi i gefnogi gwaith y Gyfarwyddiaeth Gyfiawnder a’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau, Partneriaethau ac Atal yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru.

Rydym yn chwilio am unigolyn dynamig a phrofiadol (x2) i ymuno â’r tîm. Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio mewn tîm amrywiol, gan ddarparu cymorth gweinyddol a chydgysylltu di-dor i’r Gyfarwyddiaeth a ddyrennir iddo (a’r swyddfa ehangach, yn ôl y gofyn) i ddarparu, monitro ac adrodd ar ei blaenoriaethau.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd fod yn drefnus, gallu gweithio’n annibynnol a meddu ar lygad graff. Rhaid i’r unigolyn fod yn hyderus yn dylanwadu ar uwch-arweinwyr ac yn briffio Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid gwasanaeth.

Bydd angen i chi allu datblygu cydberthnasau gwaith cadarn ag eraill, yn fewnol ac yn allanol. Byddwch yn unigolyn hunangymhellol sy’n gweithio’n dda mewn tîm ac yn gallu datblygu prosesau gweinyddol cadarn a’u rhoi ar waith, nodi ffyrdd gwell o weithio a rheoli gofynion sy’n cystadlu yn ystod cyfnod o newid sylweddol yn y swyddfa.

I wneud cais am y rôl hon, cwblhewch y Ffurflen Gais a’r Manylion Personol a’r Gwybodaeth Monitro a’i hanfon at hrcommissioner@south-wales.police.uk erbyn 26/02/2026 12YP.  Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Vickie Samuel: Vickie.samuel@south-wales.police.uk

 

 

Dogfennau Ategol

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Ffurflen Gais

Canllawiau Cyffredinol ar gyfer Ymgeiswyr