Beth yw Talu’n Ôl i’r Gymuned?

Caiff Talu’n Ôl i’r Gymuned, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel gwaith di-dâl neu wasanaeth cymunedol, ei ddefnyddio fel cosb adferol fel rhan o orchymyn cymunedol neu ddedfryd ohiriedig. Gall fod yn ofynnol i unigolion y dyfernir y gosb hon iddynt gyflawni rhwng 30-400 o oriau o waith i wneud iawn ar brosiectau sydd o fudd i’w cymunedau lleol a “thalu’n ôl” am eu camweddau.

Nod y cynllun Talu’n Ôl i’r Gymuned yw darparu cyfleoedd gweladwy i unigolion ddysgu a datblygu sgiliau newydd i wella eu cyflogadwyedd, eu cefnogi i ail-integreiddio yn eu cymunedau ac, yn y pendraw, lleihau aildroseddu.

Mae’r rhai sy’n cyflawni’r cynllun Talu’n Ôl i’r Gymuned hefyd yn gymwys i gwblhau rhaglenni addysg, hyfforddiant a chyflogaeth fel rhan o’u dedfryd, a gellir defnyddio hyd at 30% o’u horiau ar gyfer y gweithgareddau adsefydlu hyn.

Mae enghreifftiau o brosiectau Talu’n ôl i’r Gymuned yn cynnwys clirio, paentio ac addurno ardaloedd cymunedol, clirio tipiau a llwybrau, prosiectau coginio cymunedol, adeiladu a chreu eitemau pwrpasol ar gyfer ardaloedd cymunedol, clirio graffiti, casglu sbwriel a llawer mwy.

 

Yr hyn rydym yn ei wneud

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymrwymedig i weithio gyda chymunedau, ynghyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a phartneriaid, i gefnogi a chydgynhyrchu prosiectau Talu’n Ôl i’r Gymuned sydd wedi’u dylunio’n lleol ac ar y cyd yn seiliedig ar arferion gorau a blaenoriaethau lleol i sicrhau bod Talu’n ôl i’r Gymuned yn ystyrlon i’r unigolyn, drwy gefnogi ail-integreiddio a lleihau aildroseddu, ac i’n cymunedau, drwy greu ardaloedd mwy diogel.

 

Sut y gallwch helpu?

I enwebu neu gefnogi prosiect Talu’n Ôl i’r Gymuned yn eich ardal fel unigolyn, elusen, busnes lleol neu fenter arall, cliciwch ar y ddolen isod.

Nominate a Community Payback project – GOV.UK