TEITL SWYDD: Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi Plant a Phobl Ifanc
GRADD: 6/SO1 £33,603.00 – £39,276.00
LLEOLIAD: Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
ORIAU: 37 awr yr wythnos
CYFNOD: Cyfnod Penodol o 18 Mis
FETIO: MV/SC
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru (CHTh) yn chwilio am Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi Plant a Phobl Ifanc. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i drosi strategaeth Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder Plant a Phobl Ifanc De Cymru yn weithredu ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc ledled De Cymru.
Bydd Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi Plant a Phobl Ifanc yn chwarae rôl allweddol wrth helpu i gyflawni Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder Plant a Phobl Ifanc De Cymru, sy’n cyd-fynd â Chynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (2025–2029).
Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth prosiect, polisi a monitro rhagweithiol o ansawdd uchel i’r Pennaeth Diogelwch Cymunedol, gan sicrhau y gellir cydlynu’r cynnydd a wnaed ac adrodd arno yn erbyn y gweithredoedd yng Nghynllun Heddlu, Troseddau a Chyfiawnder Plant a Phobl Ifanc De Cymru. Bydd hefyd yn cyfathrebu’n barhaus â pherchnogion gweithredoedd ym mhob Cyfarwyddiaeth, gan chwarae rôl allweddol wrth lywio gweithgareddau.
Bydd y cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys sefydlu Panel yr Heddlu a Throseddu Plant a Phobl Ifanc; bydd hyn yn cynnwys edrych ar fodelau o arferion da sydd eisoes yn bodoli, helpu i ddatblygu polisïau a gweithredu mewnol sy’n gysylltiedig â gweithgarwch diogelu ac ymgysylltu a’u rhoi ar waith, darparu gweithgarwch ymgysylltu’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc, nodi a datblygu cysylltiadau â dulliau ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd eisoes yn bodoli ledled De Cymru. Bydd deiliad y swydd yn helpu i ehangu’r prosiectau presennol, fel ‘Lleisiau Ifanc’ a bydd yn cynnal gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu dynodedig â phlant a phobl ifanc ar ran y Swyddfa, gan sicrhau bod cynnwys ein cyfathrebiadau yn glir, yn berthnasol ac yn briodol o ran oedran.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, ac ymrwymiad i ddulliau atal, ymyrryd yn gynnar a chymunedau mwy diogel. Bydd yn hyderus yn gweithio mewn amgylchedd amlasiantaethol prysur ac yn gallu meithrin cydberthnasau gwaith cadarn ar draws y meysydd plismona, iechyd, addysg, awdurdodau lleol, a’r trydydd sector.
Mae’r rôl wedi’i lleoli yn Ne Cymru; fodd bynnag, mae trefniadau gweithio o bell ac ystwyth ar waith.
I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr, llythyr eglurhaol manwl a Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro i: hrcommissioner@south-wales.police.uk yn dangos sut rydych yn bodloni gofynion y rôl hon erbyn 12PM 08/12/2025. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Dogfennau Ategol
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau