TEITL SWYDD: Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi Atal Trais
GRADD: 6/SO1 £32,247.00 – £37,692.00
LLEOLIAD: Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
ORIAU: 37 awr yr wythnos
CYFNOD: Cyfnod Penodol o 12 Mis/Cyfle am secondiad (a ariennir gan Grant y Gronfa Hotspot Action 25/26)
FETIO: MV/SC
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru (CHTh) yn chwilio am Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi i ymuno â’r Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT). Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at ddull iechyd y cyhoedd amlasiantaethol De Cymru o atal trais, ymyrryd yn gynnar a newid y system.
Bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth prosiect, polisi a monitro o ansawdd uchel i Bennaeth yr Uned Atal a Lleihau Trais, yr Uwch-swyddog Polisi a’r Uned ehangach, gan helpu i gydlynu amrywiaeth o ffrydiau gwaith ac ymyriadau sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a chymunedau sy’n wynebu risg o niwed. Bydd yn chwarae rôl hanfodol wrth gyflawni Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder 2025-2029 Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gan gynnwys gwaith yn unol â’r Ddyletswydd Trais Difrifol, y Bartneriaeth Diogelu Dyfodol Pobl Ifanc, a datblygiad Strategaeth Atal a Lleihau Trais De Cymru newydd. Bydd hefyd yn cefnogi rhaglenni gwaith ehangach ar draws Cyfarwyddiaeth Cymunedau, Partneriaethau ac Atal y Comisiynydd, mewn perthynas â Diogelwch Cymunedol ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn benodol.
Bydd y rôl hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni a monitro’r Gronfa Hotspot Action, sy’n targedu ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais difrifol mewn lleoliadau allweddol ledled De Cymru. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at weithgarwch partneriaethau mewn canol trefi a chymunedau, gan gefnogi uchelgais y Comisiynydd i wella diogelwch cymunedau ac i leihau niwed drwy ymyrryd yn gynnar, datrys problemau a defnyddio dull sy’n seiliedig ar leoedd.
Bydd cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys helpu gyda’r gwaith o gynllunio ac olrhain ymyriadau a ariennir, diweddaru siartiau Gantt a chynlluniau cyflawni, cydlynu cyfarfodydd partneriaeth, a pharatoi briffiadau ac adroddiadau i lywio’r broses o wneud penderfyniadau. Bydd y rôl hefyd yn cefnogi ymchwil a chasglu gwybodaeth i sicrhau bod gweithgarwch yr Uned Atal a Lleihau Trais ar sail tystiolaeth ac yn canolbwyntio ar gael effaith wirioneddol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad o rôl gymorth prosiect neu bolisi, sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, ac ymrwymiad i leihau trais, ymyrryd yn gynnar a chymunedau mwy diogel. Bydd yn hyderus yn gweithio mewn amgylchedd amlasiantaethol prysur ac yn gallu meithrin cydberthnasau gwaith cadarn ar draws y meysydd plismona, iechyd, addysg, awdurdodau lleol, a’r trydydd sector.
Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i drosi strategaeth yn weithredu ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled De Cymru.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru ond mae trefniadau gweithio ystwyth ac o bell ar waith.
I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr, llythyr eglurhaol manwl a Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro i: hrcommissioner@south-wales.police.uk yn dangos sut rydych yn bodloni gofynion y rôl erbyn 12PM 20/10/2025. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Adnoddau Diweddaraf
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau