TEITL SWYDD: Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Atal Trais

GRADD:    SO1/SO2- £35,526.00 – £40,893.00

LLEOLIAD:  Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr

ORIAU: 37 awr yr wythnos

CYFNOD:  Cyfnod Penodol o 12 Mis (A ariennir gan Grant Dyletswydd Trais Difrifol)

FETIO: MV/SC

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru (CHTh) yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu i ymuno â’r Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT). Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at ddull iechyd y cyhoedd amlasiantaethol De Cymru o atal trais, ymyrryd yn gynnar a newid y system.

Bydd y Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Atal a Lleihau Trais yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi’r Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT) i gyflawni ei rhaglen waith, sy’n gyson â Chynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder (2025-2029) Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a Strategaeth Atal a Lleihau Trais De Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth cyfathrebu, ymgysylltu a chydlynu prosiectau rhagweithiol o ansawdd uchel i Bennaeth yr Uned Atal a Lleihau Trais, yr Uwch-swyddog Polisi a’r Uned Atal a Lleihau Trais ehangach gyda gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu, gyda dau o’r prif gyfrifoldebau yn cynnwys cydlynu ac ymgysylltu mewn perthynas ag ymgyrch #DdimYrUn (#NTO) ac arwain ar waith cwmpasu a datblygu cychwynnol ar gyfer cynllun Llysgennad Cymunedol.

Bydd y prif gyfrifoldebau yn cynnwys y gwaith o ddatblygu cynllun ymgysylltu a chyfathrebu #DdimYrUn a’i roi ar waith, a’r gwaith o ddatblygu adnoddau a dulliau ychwanegol ochr yn ochr â phartneriaid allweddol gan gynnwys Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Fawrhydi. Bydd y rôl yn cynnig cymorth gwerthfawr i lywio cynlluniau cychwynnol ar gyfer y cynllun Llysgennad Cymunedol, gan ddefnyddio adborth gan y cymunedau eu hunain. Bydd deiliad y swydd yn cynnig rhagor o wydnwch i’r swyddfa ehangach mewn perthynas ag ymgysylltu â’r gymuned a gweithgareddau cyfathrebu lle y bo’n berthnasol i Flaenoriaeth 2 CHTh a Strategaeth Atal a Lleihau Trais De Cymru, a bydd yn cefnogi’r gwaith o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o weithgareddau/cyflawniadau’r Uned Atal a Lleihau Trais a CHTh. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynllunio, yn cynnal ac yn monitro ymgyrchoedd perthnasol a mesuradwy sy’n cefnogi cyfeiriad strategol yr Uned Atal a Lleihau Trais.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad o rôl cyfathrebu a/neu ymgysylltu, sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, ac ymrwymiad i leihau trais, ymyrryd yn gynnar a chymunedau mwy diogel. Bydd yn hyderus yn gweithio mewn amgylchedd amlasiantaethol prysur ac yn gallu meithrin cydberthnasau gwaith cadarn ar draws y meysydd plismona, iechyd, addysg, awdurdodau lleol, a’r trydydd sector.

Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i drosi strategaeth yn weithredu ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled De Cymru.

Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru ond mae trefniadau gweithio ystwyth ac o bell ar waith.

I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr, llythyr eglurhaol manwl a Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro i: hrcommissioner@south-wales.police.uk yn dangos sut rydych yn bodloni gofynion y rôl erbyn 4PM 05/11/2025.  Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4.   Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.

Dogfennau Ategol

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Atal Trais Proffil y Rôl

Gwybodaeth Bersonol a Gwybodaeth Monitro

Canllawiau Cyffredinol ar gyfer Ymgeiswyr