Prif Gyfrifoldebau

  • Arwain y gwaith o ddatblygu polisïau cyfiawnder troseddol a’u rhoi ar waith mewn modd strategol, gan sicrhau cysondeb rhwng Heddlu De Cymru, y farnwriaeth a phartneriaid cyfiawnder troseddol, yn unol â gofynion statudol perthnasol a Chynllun yr Heddlu a Throseddu.
  • Ysgogi cydweithio rhwng asiantaethau fel gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a phrawf, grwpiau cymorth i ddioddefwyr, a rhaglenni adsefydlu er mwyn gwella effeithlonrwydd ar draws y system gyfan.
  • Datblygu a monitro strategaethau sy’n lleihau aildroseddu, yn symleiddio prosesau ac yn hyrwyddo cyfiawnder adferol.
  • Datblygu rhaglen craffu a goruchwylio sy’n cyd-fynd â’r dirwedd cyfiawnder troseddol.
  • Sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn Ne Cymru yn cael ei goruchwylio’n glir ac yn gadarn, gan gynnwys y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol.