Prif Gyfrifoldebau

  • Goruchwylio pob agwedd ar berfformiad yr heddlu mewn modd strategol, gan sicrhau bod Heddlu De Cymru yn cael ei ddwyn i gyfrif gan y cyhoedd, rhanddeiliaid a chyrff allanol. Arwain y gwaith o ddatblygu’r rhaglen goruchwylio a chraffu.
  • Arwain ymdrechion i hyrwyddo tryloywder yng ngweithrediadau’r heddlu drwy ddatblygu systemau i roi gwybod i’r cyhoedd am berfformiad y Comisiynydd a’r heddlu, gan sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch ac yn ddealladwy.
  • Goruchwylio archwiliadau mewnol, arolygiadau allanol ac adolygiadau gan gymheiriaid, gan sicrhau bod unrhyw argymhellion yn cael eu rhoi ar waith a’u holrhain nes iddynt gael eu cwblhau.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu fframweithiau a dangosyddion perfformiad cadarn i werthuso effeithiolrwydd gweithrediadau Heddlu De Cymru a pherfformiad mewnol yn erbyn Cynllun yr Heddlu a Throseddu.
  • Monitro ac asesu metrigau perfformiad allweddol yn rheolaidd, fel ystadegau ar droseddau, amseroedd ymateb, boddhad cymunedau ac ymddygiad swyddogion, yn unol â chyfrifoldebau cyfreithiol.
  • Sicrhau bod data ar berfformiad yn cyd-fynd â’r amcanion a bennwyd gan swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a safonau plismona cenedlaethol.