Prif Gyfrifoldebau

  • Datblygu strategaethau partneriaeth i hyrwyddo mentrau atal troseddu, a’u rhoi ar waith gan sicrhau eu bod yn gyson ag amcanion strategol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
  • Meithrin a chynnal cydberthnasau effeithiol â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, darparwyr addysg, busnesau, grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol.
  • Cynrychioli swyddfa’r Comisiynydd mewn fforymau a gweithgorau amlasiantaeth, gan hyrwyddo mentrau ar y cyd sy’n mynd i’r afael â throseddu, diogelwch cymunedol a phroblemau bregusrwydd, ar lefel leol, rhanbarthol, Cymru gyfan a’r DU.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu, cydgysylltu a gwerthuso rhaglenni atal troseddu ledled De Cymru, gan gynnwys ymgyrchoedd i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais a thrais domestig, a sicrhau diogelwch cymunedol.
  • Gweithio gyda Heddlu De Cymru a phartneriaid allanol i ddatblygu rhaglenni ymyrryd penodol i atal troseddu mewn ardaloedd risg uchel ac ymhlith poblogaethau agored i niwed.