Yn Eich Cymuned – Merthyr Tudful, Caerdydd ac Abertawe

Yn Eich Cymuned

 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools, ddiwrnodau ‘Yn Eich Cymuned’ ledled Merthyr Tudful, Caerdydd ac Abertawe fel rhan o’i gwaith ymgysylltu cymunedol ledled De Cymru.

Roedd yr ymweliadau hyn yn ei galluogi i glywed am yr hyn sydd bwysicaf i chi yn eich cymuned gan bobl yn y gymuned fel grwpiau cymunedol i drigolion lleol, plant a phobl ifanc a phobl hŷn, gwasanaethau i ddioddefwyr, timau plismona yn y gymdogaeth a gwleidyddion lleol.

Roedd y pynciau a godwyd yn cynnwys:

  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Cyffuriau a delio mewn cyffuriau
  • Diogelwch ar y ffyrdd
  • Rhoi gwybod
  • Diogelwch ar-lein
  • Ymgysylltu â phobl ifanc

Roedd y Comisiynydd hefyd yn gallu cefnogi gwaith cynhwysiant digidol cymunedol Grŵp Sefydliad Gellideg drwy roi dyfeisiau fel rhan o fenter cynhwysiant digidol y Comisiynydd ei hun. Mae cynhwysiant digidol yn agwedd bwysig ar hyrwyddo gwaith ymgysylltu â phobl ifanc a sicrhau bod gan bawb gyfleoedd i lwyddo yn eu cymuned.

Cadwch lygad ar ein sianeli i weld rhagor o weithgareddau cymunedol y Comisiynydd.

Os hoffech chi neu eich grŵp cymunedol gymryd rhan, cysylltwch ag engagement@south-wales.police.uk

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu - Cymraeg

Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu Prosiect Athena

Llun o Comisiynydd Heddlu a Throeseddu, Emma Wools gyda PCSOs yn Bari

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools yn cyhoeddi cynnydd o £2.21 y mis (6.99%) i Braesept De Cymru

Llun o Comisiynydd, Emma Wools gyd plant o ysgol Heronsbridge

Dydd Cymuned Pen-y-bont – Wedi’i Bweru gan Leisiau Ifanc