Yn Eich Cymuned
Yr wythnos hon, roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools, allan yng Nghastell-nedd a Phort Talbot yn cynnal ei diwrnod ‘Yn Eich Cymuned’ diweddaraf, yn gwrando ar yr hyn sydd bwysicaf i chi gan drigolion a chynrychiolwyr lleol.
Roedd yr ymweliadau yn cynnwys cyfarfod â:
- Timau plismona yn y gymdogaeth
- Gwleidyddion lleol
- Bore coffi cymunedol
- Grŵp gwirfoddol Forward 4 Fairlyand
- Cartref Plant Hillside Secure
Yn dilyn lansiad diweddar Cynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder i Blant a Phobl Ifanc y Comisiynydd, rhoddodd yr ymweliad hwn gyfle i gysylltu â thrigolion Hillside a gymerodd ran amlwg yn y broses o greu’r cynllun a diolch iddynt. Cyfrannodd dros 5,000 o blant a phobl ifanc ledled De Cymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod yn gallu teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu yn eu cymunedau.
Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc yw’r un cyntaf o’r fath yn Ne Cymru, yn gosod chwe blaenoriaeth glir sy’n sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed mewn plismona a diogelwch cymunedol ar draws De Cymru. Dysgwch fwy am y cynllun yma
Mae siarad yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc, trigolion, grwpiau cymunedol, timau plismona yn y gymdogaeth a gwleidyddion lleol am eu safbwyntiau a’u profiadau yn eu cymunedau yn holl bwysig wrth lywio a darparu blaenoriaethau ar draws Cynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder a Chynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder i Blant a Phob Ifanc.
Yn ystod yr ymweliad hwn, mae’r pynciau y trafodwyd yn cynnwys:
- Troseddau manwerthu
- Diogelwch cymunedol
- Diogelwch ar-lein
- Bregusrwydd i gamfanteisio a/neu radicaleiddio
- Gwaith partneriaeth positif
- Plant a Phobl Ifanc
Cadwch lygad ar ein sianeli i weld rhagor o weithgareddau cymunedol y Comisiynydd.
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Edrych yn ôl ar Fenter Strydoedd Mwy Diogel yr Haf

“Yn ddiogel, yn cael eich clywed, yn cael eich parchu”: Mae’r Comisiynydd Emma Wools yn lansio’r Cynllun Polisi, Trosedd a Cyfiawnder cyntaf ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Ne Cymru
