Mae Gwaith Ymchwil Newydd yn Tynnu Sylw at Broblemau sy’n Cyfrannu at Wahaniaethau ar Sail Hil yn y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru

Mae Gwaith Ymchwil Newydd yn Tynnu Sylw at Broblemau sy’n Cyfrannu at Wahaniaethau ar Sail Hil yn y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru

Mae Cymru yn cymryd y cam nesaf yn ei chenhadaeth i greu system cyfiawnder troseddol wirioneddol wrth-hiliol, gyda gwaith ymchwil newydd ei gomisiynu yn amlinellu’r realiti a wynebir gan fenywod, plant a phobl ifanc o gefndiroedd ethnig amrywiol ac yn nodi argymhellion ymarferol ar gyfer newid.

Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddir yn y Racial Disparity in Pre-Court Diversion Report, yn tynnu sylw at sawl ffactor sy’n cyfrannu at dangynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol sy’n cael Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys, sy’n golygu y gallent fynd ymlaen i gael dedfrydau llymach.

Gwnaed y gwaith ymchwil gan Mark Jones, Cyfarwyddwr yn Higher Plain ac Athro Anrhydeddus / Gwadd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru ac mae’n datgelu achosion posibl gwahaniaethau ar sail hil wth ddefnyddio’r system cyfiawnder troseddol, megis diffyg ymddiriedaeth yn y system cyfiawnder a’r angen am wasanaethau sy’n fwy cymwys yn ddiwylliannol. Mae hefyd yn galw am gyflwyno model o ymarfer gwrth-hiliol sy’n ystyriol o drawma ac y cytunwyd arno’n genedlaethol ledled Cymru.

Mae’r adroddiad, sy’n rhoi argymhellion ar sut y gall asiantaethau cyfiawnder troseddol weithio i gynyddu cyfran y bobl ethnig leiafrifol sy’n manteisio ar gyfleoedd dargyfeirio, yn adeiladu ar Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru (2022), sydd i gyd yn rhan o ymdrech drawslywodraethol ehangach i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030.

Nod y dulliau gweithredu newydd hyn yw lleihau effaith a thrawma cael eich arestio, hyrwyddo cyfiawnder adferol a helpu unigolion i wneud dewisiadau bywyd cadarnhaol mewn perthynas ag addysg, cyflogaeth a llesiant.

Dywedodd Emma Wools, Cadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru:

“Fel Partneriaid Plismona a Chyfiawnder Troseddol, mae pob un ohonom yn ymrwymedig i wir ddeall y problemau a’r pryderon a wynebir gan bobl o liw wrth ryngweithio â’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae’r darn diweddaraf hwn o waith yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni am y problemau y byddwn yn cydweithio i’w datrys.

 “Dengys y gwaith ymchwil newydd hwn ein bod wedi gwneud cynnydd, ond mae hefyd yn nodi un peth yn glir: mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Mae Cymru yn unigryw o ran ei phenderfyniad i greu system gyfiawnder decach a mwy cynhwysol, un sy’n gwrando ar brofiad bywyd ac yn cymryd camau mesuradwy go iawn.”

Mae’r argymhellion allweddol yn y Racial Disparity Diversion Report yn cynnwys:

  • Datblygu model cenedlaethol ar gyfer dargyfeirio cyn mynd i’r llys ar gyfer menywod, plant ac oedolion ifanc o gefndiroedd ethnig amrywiol.
  • Buddsoddi mewn gwasanaethau arbenigol, anstatudol sy’n darparu cymorth diwylliannol gymwys sy’n ystyriol o drawma.
  • Ehangu addysg a hyfforddiant i greu gweithlu cyfiawnder mwy amrywiol ac empathetig.
  • Ymgorffori allgymorth cymunedol wedi’i gydgynhyrchu er mwyn ail-feithrin ymddiriedaeth ac ymgysylltu â chymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd.

Ychwanegodd yr Uwch-arweinwyr Cyfrifol ar y Cyd ar gyfer Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru, y Cyfarwyddwr Gweithredol yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, Ian Barrow a Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mark Hobrough:

 “Fel partneriaid unedig ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus, mae Cymru yn sefyll allan oherwydd ei phenderfyniad gwirioneddol i greu cymdeithas wrth-hiliol decach a mwy cyfartal. O’r cychwyn cyntaf roeddem ni am i’n cynllun cyfiawnder troseddol gael ei gydgynhychu gyda chymunedau ethnig leiafrifol ledled Cymru a chael ei gyflawni ar gyfer y cymunedau hynny.

 “Gwnaethom gomisiynu’r gwaith ymchwil hwn er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o’r materion sy’n cyfrannu at wahaniaethau ar sail yn y system cyfiawnder ac erbyn hyn mae gennym rywbeth pendant i symud ymlaen.

 “Caiff y canfyddiadau eu rhannu nawr ledled Cymru drwy Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, y Bwrdd Cyfiawnder Menywod a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, gan sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd yn llywio polisi ac ymarfer yn y dyfodol.

 “Mae’r gwaith ymchwil yn cael ei gyhoeddi wrth i Gynllun Gweithredu ar Anghymesuredd (2024) Gwasanaeth Erlyn y Goron bwysleisio ffocws ledled y DU gyfan ar fynd i’r afael ag anghymesuredd ar sail hil mewn penderfyniadau cyhuddo.

 “Mae partneriaid yng Nghymru yn dweud bod eu model cydweithredol yn dangos sut y gall arweinyddiaeth a rennir droi strategaeth yn ganlyniadau gweladwy go iawn i bobl”

 Dywedodd Mark Jones, Cyfarwyddwr yn Higher Plain ac Athro Anrhydeddus / Gwadd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru:

“Rwy’n hynod falch o fod wedi gwneud y gwaith ymchwil hwn sydd ei angen i wahaniaethau ar sail hil ym maes dargyfeirio cyn mynd i’r llys yng Nghymru ac rwy’n credu bod y gwersi a ddysgwyd o’r prosiect hwn yn cynnig argymhellion ymarferol ar gyfer newid.

 “Sicrhaodd y gwaith ymchwil fod y prosiect hwn yn canolbwyntio ar brofiadau bywyd plant, oedolion ifanc a menywod o gefndiroedd ethnig amrywiol a bod pobl yn gwrando ar eu lleisiau ac yn eu clywed.

 “Mae’r dull gweithredu cynhwysol hwn wedi golygu bod profiadau bywyd wedi llywio’r argymhellion ar gyfer gwella ymarfer gwrth-hiliol a dargyfeirio cynhwysol sy’n diwallu anghenion pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn well. Edrychaf ymlaen at weld sut mae’r argymhellion bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer datblygu ymarfer dargyfeiriol.”

Yn olaf, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools:

“Gwyddom y bydd rhoi terfyn ar wahaniaethau ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol yn gofyn am onestrwydd, cydweithio ac ymrwymiad hirdymor. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi map ffordd i ni allu gwneud hynny, gan sicrhau mai pobl, nid proses, sydd wrth wraidd diwygiadau.

 “Mae Cymru wedi dangos beth sy’n bosibl pan fydd gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithredu. Mae a wnelo hyn â chreu system sy’n gweithio i bawb ac sy’n sicrhau bod pob un ohonom yn gweithio i greu Cymru wirioneddol wrth-hiliol sydd ei hangen a’i heisiau ar bob un ohonom.”

Racial Disparity Report

Deall y materion a all fod yn cyfrannu at wahaniaethu ar sail hil o fewn y dulliau Dargyfeirio cyn Achos Llys yng Nghymru i bob grŵp o bobl, gan ganolbwyntio ar Fenywod a Phlant

Dysgwch fwy

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Police & Crime Commissioner, Emma Wools on a walkabout in Merthyr town centre with local officers

Heddlu gweledol yn gwneud gwahaniaeth: Mae’r Comisiynydd yn gweld y dylanwad yn bersonol yng nghanol y dref Merthyr

Gweinidog dros Gyfiawnder a Phlismona, Sarah Jones

UALIT yn Ymuno ag Ymdrech Genedlaethol yng Nghynhadledd Rhaglen Lleihau Trais Difrifol y Swyddfa Gartref

A picture of the Commissioner with South Wales Police Youth Justice Officers and Youth Justice Service staff.

Canlyniad 22: Gweithio gyda’n Gilydd ar Gyfer Plant a Phobl Ifanc