Heddlu gweledol yn gwneud gwahaniaeth: Mae’r Comisiynydd yn gweld y dylanwad yn bersonol yng nghanol y dref Merthyr

Yn ddiweddar, treuliodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu amser yng nghanol tref Merthyr Tudful i glywed yn uniongyrchol gan bobl sy’n byw yn yr ardal am sut mae dull gweithredu plismona ‘mwy gweladwy, cysylltiedig sy’n canolbwyntio ar y gymuned’ yn gwella diogelwch a lles bob dydd.

Mae’r heddlu a phartneriaid wedi bod yn cydweithio’n agos i flaenoriaethu atebion a arweinir gan y gymuned, patrolau amlwg, a dulliau ymgysylltu cadarnhaol gyda’r nod o sicrhau bod canol y dref yn teimlo’n fwy diogel a chroesawgar i bawb.

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu’r Comisiynydd â’r Tîm Plismona yn y Gymdogaeth Lleol i weld sut mae eu model plismona wedi’i dargedu sy’n seiliedig ar le yn helpu i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau problemus yng nghanol trefi. Rhannodd swyddogion enghreifftiau o sut mae patrolau cerdded rheolaidd, sgyrsiau gyda thrigolion, a gweithgareddau datrys problemau pwrpasol yn helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus a’u bod yn cael eu cefnogi yng nghanol y dref.

Dangosodd ymweliad â’r ystafell reoli teledu cylch cyfyng sut mae partneriaeth yn gwella diogelwch cymunedol. Esboniodd staff sut mae cyfathrebu rhwng gweithredwyr systemau teledu cylch cyfyng, swyddogion yr heddlu a phartneriaid lleol mewn amser real yn helpu i gadw pobl sy’n agored i niwed yn ddiogel, cefnogi pobl sy’n gweithio mewn siopau ac adnabod y rhai sy’n achosi niwed, gan gynnwys troseddwyr sy’n defnyddio beiciau Suron yn anghyfreithlon. Drwy ymateb mewn modd cydgysylltiedig, mae’r gymuned eisoes wedi gweld nifer o ganlyniadau cadarnhaol.

Cymerodd y Comisiynydd amser hefyd i siarad â gweithwyr mewn siopau lleol. Disgrifion nhw achosion lle cawsant eu cam-drin yn eiriol ac yn gorfforol, a dywedant fod hyn wedi gwneud iddynt deimlo’n bryderus ac yn agored i niwed yn y gweithle. Fodd bynnag, gwnaethant hefyd ddisgrifio newid clir a chadarnhaol, gyda swyddogion yn galw heibio yn rheolaidd ac yn meithrin cydberthnasau y gellir ymddiried ynddynt. O ganlyniad, mae gweithwyr siopau wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n ceisio cyflawni lladrad, a llai o achosion o ymddygiad bygythiol a digwyddiadau gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Emma Wools, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Yn rhan o’m Cynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder, rwyf wedi ymrwymo i gydweithio’n agos â Heddlu De Cymru, busnesau lleol, a phartneriaid diogelwch cymunedol i greu cymunedau mwy diogel i drigolion ledled De Cymru. Mae wedi bod yn bleser gweld sut mae dulliau gweithredu wedi’u targedu sy’n seiliedig ar le, ynghyd ag ymrwymiad gwirioneddol i weithio gyda’n gilydd, yn helpu i sicrhau canol tref mwy diogel a chroesawgar.”

Bydd y model plismona a’r dull partneriaeth hwn yn parhau i fod yn ganolog i ymdrechion parhaus i wella diogelwch a lles ar draws Merthyr Tudful.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Gweinidog dros Gyfiawnder a Phlismona, Sarah Jones

UALIT yn Ymuno ag Ymdrech Genedlaethol yng Nghynhadledd Rhaglen Lleihau Trais Difrifol y Swyddfa Gartref

A picture of the Commissioner with South Wales Police Youth Justice Officers and Youth Justice Service staff.

Canlyniad 22: Gweithio gyda’n Gilydd ar Gyfer Plant a Phobl Ifanc

Llun o Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn cyflwyno siec i ganolfan gymunedol Dowlais

Creu Cyfleoedd, Newid y Dyfodol: Comisiynydd yn cyflwyno grant i Ganolfan Gymunedol Dowlais!