Mae Emma Wools, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) De Cymru yn cyhoeddi cynnydd o £2.21 y mis (ar gyfer eiddo Band D) i’r Praesept, sy’n canolbwyntio ar ddiogelu plismona rheng flaen, sicrhau parhad gwasanaethau a chyflawni’r blaenoriaethau yn ei Chynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder.
Daw’r cynnig ar adeg o ddiwygiadau cenedlaethol ac mae ffocws y CHTh yn parhau ar sicrhau sefydlogrwydd i Heddlu De Cymru, ysgogi a chynnal gwelliannau o ran perfformiad a pharhad gwasanaethau i’r cyhoedd, gan gadw cymunedau’n ddiogel.
Bydd y cynnydd arfaethedig i’r praesept o £26.47 y flwyddyn / £2.21 y mis ar gyfer eiddo Band D, yn darparu buddsoddiad hanfodol i sicrhau y gall Heddlu De Cymru barhau i ymateb i alw cynyddol a mwyfwy cymhleth, cadw swyddogion a staff, a diogelu plismona yn y gymdogaeth ledled ardal yr heddlu.
Dywedodd Emma Wools:
“Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, rwy’n llwyr ymrwymedig i sicrhau bod gwasanaeth plismona o’r safon uchaf posibl yn cael ei ddarparu yn ein cymunedau. Bydd y penderfyniad anodd i gynyddu’r praesept yn sicrhau y gallwn barhau i gyflawni a chadw’r cyhoedd a’n cymunedau yn ddiogel.
“Rwy’n gwybod ac yn deall bod praesept y flwyddyn hon yn cael ei bennu yng nghyd-destun amgylchedd ariannu cenedlaethol heriol, ac ar adeg pan fo cyllidebau aelwydydd o dan straen sylweddol.
“Ond mae angen i ni fod yn glir â’r cyhoedd bod y cynnydd hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth y maent yn ei ddisgwyl gan eu heddlu. Mae cydbwyso anghenion ariannu Heddlu De Cymru, ochr yn ochr â phwysau’r argyfwng costau byw, wedi bod yn ganolog i’r penderfyniadau a wnaed gennyf wrth lunio ein cynnig ariannol.”
Yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus i Banel yr Heddlu a Throseddu, cytunwyd ar gynnydd o £26.47 y flwyddyn. Bydd cynnydd o 6.99% yn y Praesept, sy’n golygu’r canlynol i bob aelwyd:
- Cynnydd o £2.21 y mis ar gyfer eiddo Band D
- Cynnydd o £1.96 y mis ar gyfer Band C
- Cynnydd o £1.72 y mis ar gyfer Band B
- Cynnydd o £1.47 y mis ar gyfer Band A
I gloi, dywedodd Emma Wools:
“Mae’r cynnig a gyflwynir gennyf ar gyfer y praesept yn ymwneud â chefnogi blaenoriaethau’r cyhoedd a chyflawni’r pethau sydd bwysicaf i’n cymunedau.
“Mae hyn yn golygu buddsoddi’n barhaus mewn gwasanaethau plismona yn y gymdogaeth a dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar le er mwyn lleihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; mae’n golygu sicrhau bod arian ar gael ar gyfer gwaith hanfodol, fel trais yn erbyn menywod a merched ac atal trais yn gyffredinol.
“Yn erbyn cefndir o newid ac ansicrwydd, rwyf am fod yn gwbl glir â phobl De Cymru, a wnaeth fy ethol i wasanaethu tymor llawn; byddaf yn parhau i gyflawni eu blaenoriaethau, ar gyfer eu cymunedau, byddaf yn parhau i ddwyn Heddlu De Cymru i gyfrif a gweithio i gyflawni’r uchelgeisiau a nodir yn fy Nghynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder ar gyfer De Cymru.”
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu Prosiect Athena
Dydd Cymuned Pen-y-bont – Wedi’i Bweru gan Leisiau Ifanc