Canlyniad 22: Gweithio gyda’n Gilydd ar Gyfer Plant a Phobl Ifanc

Ymwelodd y Comisiynydd â Merthyr Tudful yn ddiweddar i gydnabod yr ymarfer rhagorol rhwng Swyddogion Cyfiawnder Ieuenctid Cwm Taf Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cwm Taf sy’n cydweithio i arwain y ffordd ar y defnydd o Ganlyniad 22 yn lleol ar gyfer plant a phobl ifanc (o dan 18) wrth roi datrysiadau y tu allan i’r llys.

Nod y canlyniad hwn, a bennwyd yn 2019, yw cynyddu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona, yn enwedig mewn cymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd, a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol ymddygiadau er mwyn dargyfeirio plant a phobl ifanc oddi wrth y system cyfiawnder troseddol, heb eu troseddoli. Drwy ddefnyddio dull o roi’r plentyn yn gyntaf, mae plant a phobl ifanc sy’n derbyn y canlyniad hwn yn cael cymorth wedi’i deilwra, ymyriadau a gweithgareddau dargyfeirio er mwyn lleihau troseddau eraill rhag digwydd yn ein cymunedau.

Mae’r defnydd o’r canlyniad hwn, ynghyd ag ymyriadau cynnar a chymorth atal, wedi arwain at leihad o 80% mewn plant a phobl ifanc yn cyflawni troseddau ychwanegol ledled Merthyr a Rhondda Cynon Taf.

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cwm Taf hefyd yn darparu ymarfer sy’n arwain y sector mewn perthynas â’i ymrwymiad i wrth-hiliaeth a meithrin cymunedau diogel a chynhwysol ledled y rhanbarth. Mae gan y gwasanaeth Hyrwyddwyr Gwrth-Hiliaeth ymroddedig sy’n cynnig cymorth i blant a phobl ifanc o gefndiroedd ethnig amrywiol, yn ogystal ag ymyriadau wedi’u teilwra i fynd i’r afael ag ymddygiadau a chredoau niweidiol er mwyn creu cymunedau cydlynol sy’n dathlu amrywiaeth.

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi bod yn hanfodol wrth rannu’r arferion rhagorol hyn ledled y rhanbarth er mwyn helpu Plismona a phartneriaid i ddarparu canlyniadau cyson sy’n rhoi’r plentyn yn gyntaf ar gyfer plant a phobl ifanc.

Roedd yn ymweliad ysbrydoledig sy’n tynnu sylw at ymroddiad a chydweithrediad plismona a phartneriaid i ddarparu’r canlyniadau gorau i blant, dioddefwyr a’n cymunedau.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Police & Crime Commissioner, Emma Wools on a walkabout in Merthyr town centre with local officers

Heddlu gweledol yn gwneud gwahaniaeth: Mae’r Comisiynydd yn gweld y dylanwad yn bersonol yng nghanol y dref Merthyr

Gweinidog dros Gyfiawnder a Phlismona, Sarah Jones

UALIT yn Ymuno ag Ymdrech Genedlaethol yng Nghynhadledd Rhaglen Lleihau Trais Difrifol y Swyddfa Gartref

Llun o Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn cyflwyno siec i ganolfan gymunedol Dowlais

Creu Cyfleoedd, Newid y Dyfodol: Comisiynydd yn cyflwyno grant i Ganolfan Gymunedol Dowlais!