Ar grwydr yn eich cymuned

Mae gwrando ar y cyhoedd yn rhan allweddol o rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Yn ddiweddar, mae eich Comisiynydd, Emma Wools wedi bod ‘ar grwydr’ yn ymweld â sawl cymuned ar draws De Cymru, yn siarad gyda busnesau, grwpiau cymunedol, cynghorwyr, staff llinell, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a phobl ar y stryd. Mae’r sgyrsiau hyn yn rhan bwysig o’r gwaith o lunio Cynllun Heddlu a Throseddu Emma, a fydd yn nodi amcanion, blaenoriaethau ac anghenion sy’n gysylltiedig â phlismona, troseddau a chyfiawnder troseddol yn Ne Cymru.

Hyd yn hyn, mae’r sgyrsiau wedi cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, dwyn o siopau, defnydd o gyffuriau ac alcohol, plismona gweledol, diogelwch personol, troseddau casineb, diwylliant gangiau, cefnogaeth i ddioddefwyr troseddau, gwahaniaethu, trais yn erbyn menywod a merched, cyllid ar gyfer cynlluniau atal troseddau a dulliau gweithredu newydd i rymuso’r gymuned.

Mae sgwrsio’n uniongyrchol â’r bobl leol, dioddefwyr a chymunedau am faterion sydd o bwys iddynt ac sy’n effeithio arnynt lle maent yn byw neu’n gweithio, a’u profiadau o blismona lleol yn Ne Cymru wedi bod yn allweddol i sicrhau bod y blaenoriaethau a ddatblygir yng nghynllun Heddlu a Throseddu Emma yn adlewyrchu anghenion a safbwyntiau’r bobl leol.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Emma yn parhau gyda’i hymweliadau cymunedol ym Mro Morgannwg, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.

Os hoffech rannu eich adborth am blismona a chyfiawnder troseddol, cymerwch ran yn arolwg y Comisiynydd – https://lynngroup.qualtrics.com/jfe/form/SV_bKG0t9dhk1inBJA

Mae’r arolwg hwn yn cau ddydd Gwener 4 Hydref

Mae copïau papur o’r arolwg, gan gynnwys print bras a Hawdd eu Darllen ar gael drwy gysylltu â’n swyddfa:  comisiynydd@heddlu-de-cymru.pnn.police.uk/ 01656 869366

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion

“Yn ddiogel, yn cael eich clywed, yn cael eich parchu”: Mae’r Comisiynydd Emma Wools yn lansio’r Cynllun Polisi, Trosedd a Cyfiawnder cyntaf ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Ne Cymru

Members of Gellideg Foundation Group

Yn Eich Cymuned – Merthyr Tudful, Caerdydd ac Abertawe

Summer Placement Training Programme Alumni

Gwneud Plismona sy’n Addas ar gyfer y Dyfodol – ‘Rhaglen Hyfforddi Lleoliad Haf’ Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools