Mae’t Comisiynydd wedi agor ymgynghoriad â phlant a phobl ifanc er mwyn helpu i greu Cynllun yr Heddlu a Throseddu cyntaf De Cymru i Blant a Phobl Ifanc. Bydd y cynllun hwn yn gosod y blaenoriaethau ar gyfer plismona yn Ne Cymru, gyda phwyslais ar ddatblygu atebion sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc.
Caiff y blaenoriaethau yn y cynllun eu llunio gan ddefnyddio adborth uniongyrchol gan blant a phobl ifanc De Cymru. Bydd hyn yn helpu sicrhau bod plismona yn adlewyrchu anghenion a safbwyntiau cenedlaethau’r dyfodol.
Yn dilyn arolwg cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynnar eleni, yn ogystal â nifer o sesiynau gyda phlant a phobl ifanc, rydym nawr yn croesawu adborth gan y grwpiau eraill sydd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws ardal De Cymru.
Darganfod mwy isod
Arolwg British Sign Language (BSL)
Arolwg BSL i phlant a phobl ifanc sydd yn byddar
Arolwg BSLPecyn Hwylusydd
Gwybodaeth am sut gallwch ein cefnogi os rydych yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Pecyn Hwylusydd