Teitl Swydd: Arweinydd Drive Cymru Gyfan

Gradd: P0 4/5 – £48,894.00 – £54,879.00

Lleoliad: Pencadlys Heddlu De Cymru

Oriau: 37

Cyfnod: Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2027 / Cyfle am Secondiad

Lefel Fetio Ofynnol: MV/SC

 Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a gweithio ledled Cymru gyfan i gefnogi’r broses o gyflwyno Prosiect Drive. Nod Prosiect Drive yw newid ymddygiad cyflawnwyr cam-drin domestig niwed uchel a risg uchel, drwy gyfuno gwaith rheoli achosion dwys a chamau gweithredu amlasiantaethol cydgysylltiedig. Bydd Arweinydd Drive Cymru Gyfan yn goruchwylio’r broses o roi safleoedd peilot newydd ar waith ar gyfer Drive yng Nghymru, gan ddefnyddio a rhannu’r gwersi a ddysgwyd o’r safle peilot gwreiddiol yn Ne Cymru. Bydd yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr swyddfeydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, heddluoedd, partneriaid cyflawni a gwasanaethau dioddefwyr ledled Cymru er mwyn sefydlu rhwydweithiau i gefnogi ac i gydlynu’r broses gyflwyno.

Bydd deiliad y swydd yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor darpariaeth i gyflawnwyr yng Nghymru drwy lywio model comisiynu cynaliadwy a chostffeithiol sy’n ymgorffori’r rhaglen o fewn darpariaeth VAWDASV ehangach ac sy’n ategu rhaglenni eraill i gyflawnwyr cam-drin domestig, gan gefnogi ymrwymiadau Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder De Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â’r Pennaeth VAWG a Diogelu, Megan Stevens (megan.stevens1@south-wales.police.uk).

I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr, llythyr eglurhaol manwl a Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro i: hrcommissioner@south-wales.police.uk yn dangos sut rydych yn bodloni gofynion y rôl erbyn 12PM 04/11/2025.  Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.

Dogfennau Ategol

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Arweinydd Drive Cymru Gyfan Proffil y Rôl

Gwybodaeth Bersonol a Gwybodaeth Monitro

Canllawiau Cyffredinol ar gyfer Ymgeiswyr