Crynodeb
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn chwilio am ddyfynbrisiau gan sefydliadau neu ymgyngoriaethau er mwyn cynnal asesiad o Anghenion Dioddefwyr. Diben yr Asesiad o Anghenion Dioddefwyr fydd asesu anghenion dioddefwyr troseddau gan ganolbwyntio’n benodol ar y canlynol:
– Gwasanaethau i ddioddefwyr sy’n oedolion (gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol).
– Gwasanaethau i blant a phobl ifanc (gan gynnwys cymorth aml-drosedd uniongyrchol).
– Gwasanaethau i ddioddefwyr Trais yn erbyn Menywod a Merched (VAWG), gan gynnwys cam-drin domestig, gan ganolbwyntio’n benodol ar stelcio, niwed ar-lein, arferion diwylliannol niweidiol a chamfanteisio.
Mae’r gwasanaethau i ddioddefwyr a ariennir gan y Comisiynydd wedi parhau i helpu dioddefwyr i ymdopi a dod dros effeithiau trosedd a sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn canolbwyntio ar anghenion a hawliau dioddefwyr. Felly, bydd yr asesiad hwn o anghenion yn cefnogi buddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth er mwyn helpu dioddefwyr i ymdopi ag effeithiau trosedd, a chyn belled ag y bo’n bosibl, dod dros y niwed y maent wedi’i wynebu.Ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddodd y Llywodraeth ei bod yn bwriadu diddymu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu erbyn 2028. Wrth i waith fynd rhagddo o hyd mewn perthynas ag unrhyw drefniadau yn y dyfodol, bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu lleol yn parhau i gyflawni eu dyletswyddau statudol sy’n cynnwys comisiynu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr lleol penodol. Mae comisiynu asesiad o anghenion dioddefwyr yn cefnogi’r gwaith parhaus o gyflawni cyfrifoldebau statudol drwy sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir yn y dyfodol mewn perthynas â gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr yn cael eu llywio gan brofiad ac anghenion dioddefwyr yn lleol.
Mae uchafswm cyllideb o £25,000 ar gael i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion sy’n cynnwys y canlynol:
1. Cynnal gwerthusiad holistaidd o wasanaethau i ddioddefwyr yn unol â’r meysydd a nodwyd yn y fanyleb atodedig.
2. Cynnal asesiad o’r galw am wasanaethau i ddioddefwyr trosedd sy’n blant ac yn oedolion yn unol â’r meysydd a nodwyd yn y fanyleb atodedig.
3. Cynnal asesiad o anghenion gwasanaethau i ddioddefwyr trosedd sy’n blant ac yn oedolion yn unol â’r meysydd a nodwyd yn y fanyleb atodedig.
4. Llunio cyfres o argymhellion sy’n amlinellu’r gwasanaethau cymorth cysylltiedig sydd eu hangen i ddiwallu anghenion dioddefwyr a nodwyd, gan gynnwys nodi bylchau ar gyfer gwasanaethau cymorth cyffredinol ac arbenigol er mwyn llywio gwaith comisiynu yn y dyfodol.
5. Ystyried ac asesu darpariaeth dulliau adferol fel llinyn drwy gydol yr amcanion uchod a llunio argymhelliad/argymhellion penodol ar gyfer dulliau adferol ym mhob maes.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgymryd â’r gwaith hwn, rhowch ddyfynbris ynghyd â throsolwg byr o’ch dull arfaethedig a sut y byddech yn cyflawni’r amcanion gofynnol a nodwyd yn y fanyleb atodedig. Rydym yn croesawu ymatebion yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Dylid anfon pob dyfynbris a gwybodaeth ategol yn electronig at Jade.theaker1@south-wales.police.uk erbyn 6 Chwefror 2026.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jade.theaker1@south-wales.police.uk.