Crynodeb
Mae’r Comisiynydd wedi lansio ei ymgynghoriad ‘Ariannu Diogelwch Gyda’n Gilydd’. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r swm y mae preswylwyr yn ei gyfrannu at blismona drwy eu Treth Gyngor.
Rydym yn gofyn am gymorth ein partneriaid i rannu’r negeseuon pwysig a deunyddiau’r ymgynghoriad â’ch cymunedau er mwyn sicrhau bod preswylwyr yn Ne Cymru yn cael y cyfle i rannu eu barn am lefel arfaethedig y cynnydd i gyllid yr heddlu ar gyfer 2026/27.
Rydym wedi creu cyfres o graffigau a phosteri i chi eu defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol ac arddangos mewn lleoliadau cymunedol allweddol ac ardaloedd lle ceir llawer o bobl.
Gellir lawrlwytho’r rhain isod