Crynodeb
Ar y cyd â phartneriaid ledled De Cymru, rydym wedi datblygu Cynllun VAWDASV ar y Cyd sy’n nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd ar y cyd â Llywodraeth Leol a Llywodraeth Genedlaethol, Cyrff Anllywodraethol, Gwasanaethau Arbenigol, Asiantaethau Cyfiawnder Troseddol, Sefydliadau Iechyd ac Addysgol i ddiogelu a chefnogi dioddefwyr pob math o VAWDASV, yn unol â’r addewid yng Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder De Cymru 2025-29, Blaenoriaeth 3: Diogelu Pobl a Chymunedau Agored i Niwed, Gan gynnwys Ar-lein i gadw pobl a chymunedau sy’n agored i niwed yn ddiogel rhag camfanteisio a niwed.
Rhennir y Cynllun yn bedair adran, sef y ‘Pedwar P’:
- Paratoi: Paratoi timau plismona a phartneriaid i ymateb yn effeithiol i VAWG a’i leihau. Sicrhau bod timau plismona yn meddu ar y galluoedd, y capasiti a’r diwylliant cywir (gwybodaeth, sgiliau, cymorth a mewnwelediad) i ymdrin â VAWG.
- Diogelwch (Protect): Diogelu a chefnogi dioddefwyr a chymunedau rhag pob math o VAWG.
- Ymlid (Pursue): Deall sbardunau cyflawni troseddau yn well ac ymateb yn briodol drwy ddull system gyfan.
- Atal (Prevent): Defnyddio dull ‘Atal yn Gyntaf’ o ymdrin â sbardunau VAWG, gan gynnig cyfleoedd i hyrwyddo cydberthnasau iach ac ymddygiadau cadarnhaol.
Wrth gwblhau’r Cynllun hwn, gwnaethom ymgynghori â dioddefwyr-goroeswyr VAWDASV, a gwasanaethau arbenigol, gan sicrhau bod y lleisiau pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn cael eu clywed a’u hystyried yng nghynnwys ac addewidion y Cynllun hwn.