Crynodeb
Beth yw Prosiect Athena?
Dogfen gymorth hawdd ei deall yw Prosiect Athena. Fe’i datblygwyd gan Heddlu De Cymru ac mae’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r dulliau a ddefnyddir gan droseddwyr Seiberstelcio ac Aflonyddu a darparu canllawiau trylwyr i ddioddefwyr, gweithwyr proffesiynol a’r Heddlu ar yr un pwnc. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys camau manwl y gall unigolion eu cymryd i ddiogelu eu hunain ar-lein ac wrth ddefnyddio technoleg/rhaglenni ar-lein. Mae’n cwmpasu troseddau a cham-drin sy’n dibynnu ar ddulliau seiber ac sy’n cael eu hwyluso gan ddulliau seiber, ac mae wedi’i drefnu fesul categori e.e., y cyfryngau cymdeithasol, ffonau symudol a thechnoleg cartref clyfar.
Diffiniadau
- Defnydd mynych a bwriadol o’r rhyngrwyd a dulliau cyfathrebu electronig eraill i gyfathrebu mewn modd parhaus a dieisiau gyda’r bwriad o ddychryn rhywun, ei fygwth neu aflonyddu arno yw seiberstelcio.
- Cam-drin y gellir ond ei gyflawni drwy ddefnyddio technoleg ddigidol e.e. hacio, ysbïwedd yw cam-drin sy’n dibynnu ar ddulliau seiber.
- Cam-drin ‘traddodiadol’ ydyw sy’n cael ei hwyluso gan ddulliau seiber e.e. seiberstelcio, neu dwyll ar-lein fel swyno drwy dwyll.