Ymunwch â Grŵp Cynghori Trwyddedu Arfau Tanio a Ffrwydron Annibynnol (IAG) Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru.

Mae Grŵp Cynghori Trwyddedu Arfau Tanio a Ffrwydron Annibynnol (FELIAG) Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu De Cymru yn cyflawni rôl hanfodol fel ‘cyfaill beirniadol’ mewn perthynas â’n polisïau a’n prosesau. Mae’n ein galluogi i gydgynhyrchu’r gwasanaeth a ddarperir gennym o fewn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae’n cynnig fforwm lle y gall aelodau annibynnol o’r gymuned gynnig cyngor yn seiliedig ar eu gwybodaeth a’u profiad byw o faterion trwyddedu arfau tanio a ffrwydron ym maes plismona, a chyfrannu at wneud De Cymru yn lle mwy diogel a chydlynol.

Rôl y Grŵp yw rhoi cyngor anffurfiol ar ein gwasanaeth a chraffu arno’n anffurfiol, gyda ffocws penodol ar sicrhau ein bod yn deall anghenion ein holl gymunedau ac yn gallu ymateb iddynt.

Mae angen pobl sydd â brwdfrydedd, ymrwymiad a dealltwriaeth o gydraddoldeb a hawliau dynol i’n helpu ar lefel leol, gan weithio gyda’n tri thîm gweithredol ar gyfer Caerdydd a’r Fro, Morgannwg Ganol ac Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Bydd angen ein ‘cyfeillion beirniadol’ arnom hefyd i helpu ar lefel strategol gan roi cyngor drwy ein tîm Trwyddedu Arfau Tanio a Ffrwydron, i lywio polisïau lleol.

Bydd angen i aelodaeth FELIAG fod mor gynrychioliadol â phosibl o’r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu ac yn unol â’r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Fodd bynnag, mae angen cymorth penodol ar Heddlu De Cymru ar hyn o bryd, gyda’r gwaith o graffu ar ein dull o drwyddedu arfau tanio a ffrwydron a byddem yn arbennig yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad o’r maes hwn.

Proffil y Rôl

Fel aelod o FELIAG, bydd eich barn annibynnol yn helpu Heddlu De Cymru i lywio’r gwasanaethau a ddarperir gan yr heddlu ac yn helpu i feithrin cydberthnasau cryfach â’n cymunedau saethu. Byddwch yn cytuno i wneud y canlynol:

  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd bob chwe mis fel aelod o’r grŵp.
  • Rhoi cyngor annibynnol i’r grŵp am faterion penodol y nodwyd ac y cytunwyd arnynt gan yr Heddlu a’r Grŵp.
  • Rhoi arweiniad, dealltwriaeth bersonol a her adeiladol yn adlewyrchu eich safbwynt fel aelod o’r gymuned saethu.
  • Rhoi cyngor annibynnol ar faterion sydd o bosibl yn effeithio ar y gymuned yn ardal De Cymru, gan gynnwys polisïau, arferion, gweithdrefnau a digwyddiadau critigol.
  • Lle y bo’n briodol, gweithredu fel Cynghorydd Digwyddiadau Critigol Annibynnol ar gyfer yr Heddlu gweithredol (nid yw hyn yn orfodol).
  • Cadw cydberthynas waith dda gydag aelodau eraill y Grŵp, staff Heddlu De Cymru ac unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb.
  • Ymgymryd ag amrywiaeth ehangach o rolau cynghori o bosibl.

Manyleb Person

Rhaid i ymgeisydd sy’n gwneud cais am rôl fel aelod o’r Grŵp fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Ni ddylai fod ganddo gŵyn agored mewn perthynas â Heddlu De Cymru na Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
  • Ni ddylai fod yn swyddog yr heddlu nac yn aelod o staff yr heddlu yn Heddlu De Cymru na Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, nac unrhyw Heddlu neu Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu arall, sy’n gweithio ar hyn o bryd.
  • Rhaid iddo fyw neu weithio yn ardal Heddlu De Cymru.
  • Rhaid iddo fod yn barod i fynychu cyfarfodydd yn ardal Heddlu De Cymru.
  • Rhaid iddo gael cliriad fetio.
  • Rhaid iddo fod yn barod i gyfrannu ei amser, ei egni a’i ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd rheolaidd.
  • Bod yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth i’r ffordd y mae gwasanaethau plismona yn cael eu darparu.
  • Rhaid iddo fod yn barod i weithio’n adeiladol gyda’r Heddlu, ac aelodau eraill y Grŵp.
  • Dangos y gallu i wrando ar farn pobl eraill a’i hystyried, gan drin pawb yn deg a chydag urddas a pharch.
  • Osgoi rhagfarn a gwahaniaethu, gan ddangos ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol.
  • Rhaid iddo gydymffurfio â Chod Moeseg y Coleg Plismona.
  • Yn gallu dangos gwybodaeth ymarferol o ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol mewn perthynas â thrwyddedu arfau tanio.
  • Rhaid iddo allu ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol a’i rheoli’n briodol.
  • Dangos y gallu i gwestiynu, herio, pwyso a mesur materion a mynegi barn gytbwys, resymol a chymesur.

Os ydych yn credu y gallwch helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i blismona yn Ne Cymru, lawrlwythwch y ffurflen gais heddiw.

Os hoffech drafod ymuno â’r Grŵp, cysylltwch â Phil Ashby:  phil.ashby@south-wales.police.uk)

Dychwelwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau i: HRCommissioner@south-wales.police.uk

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg a gellir ei ddarparu mewn fformatau eraill, gan gynnwys print bras, braille, sain, ac e-bost.  Cysylltwch â: HRCommissioner@south-wales.police.uk os hoffech gael unrhyw un o’r fformatau hyn.

 

 

Dogfennau Ategol

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Trwyddedu Arfau Tanio a Ffrwydron – Cyfle i Wirfoddoli