Sgwrs Lleisiau Ifanc

Mae Sgwrs Llais Ifanc yn fenter gyfun a gyflwynwn gyda Heddlu De Cymru, lle caiff pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed eu hannog i rannu eu hadborth gonest gyda ni am y materion sy’n effeithio nhw lle maen nhw yn byw, gweithio neu astudio. Fel rhan o’n digwyddiadau, mae gan bobl ifanc hefyd gyfle i ‘fod y tu ôl i’r llenni’ mewn adrannau gwahanol yr heddlu, sydd wedi cynnwys cwrdd â chi a cheffylau’r heddlu, derbyn arddangosiadau gan swyddogion sy’n gyfrifol am adnabod wynebau, arfau tân, ymchwiliadau a threfniadau traffig.

Ar ôl ein Fforwm Ieuenctid Llais Ifanc, gwahoddir pobl ifanc i fynychu ‘sesiwn adborth’ i glywed diweddariadau gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Swyddogion Prif a’r arweinwyr perthnasol o fewn y sefydliad ar sut y mae’r materion a godwyd wedi’u hystyried a’u cynnydd.

Drwy sefydlu’r fforwm hwn, hoffem annog a grymuso pobl ifanc i wneud y canlynol:

  • Rhannu eu adborth a mynegi eu barnau
  • Rhannu eu syniadau a’u cynigion gyda ni
  • Siarad yn uniongyrchol â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’i dîm, yr heddlu a sefydliadau eraill.
  • Rhannu gwybodaeth, ymwybyddiaeth a’u profiadau personol yn ymwneud â materion cymunedol
  • Gweithio gyda ni i ddatblygu atebion creadigol a phositif ar gyfer pobl ifanc.