Cyfrifoldeb cyffredinol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fydd cynnal gwasanaeth yr heddlu effeithiol ac effeithlon drwy ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif. Mae’r Comisiynydd yn cefnogi’r Prif Gwnstabl i wneud Heddlu De Cymru y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, ac mae’n chwarae rhan flaenllaw mewn perthynas â diogelwch y gymuned a lleihau nifer y troseddau.Ymhlith ei ddyletswyddau mae:

  • Pennu’r blaenoriaethau plismona lleol, a gyhoeddir mewn Cynllun Heddlu a Lleihau Trosedd;
  • Cefnogi a herio perfformiad yr heddlu a chraffu arno;
  • Pennu cyllideb flynyddol yr heddlu a phraesept y dreth gyngor*;
  • Penodi* ac, os bydd angen, diswyddo’r Prif Gwnstabl;
  • Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon;
  • Mynd i gyfarfodydd Panel yr Heddlu a Throseddu;
  • Ymchwilio i gwynion yn erbyn y Prif Gwnstabl a monitro pob cwyn yn erbyn swyddogion a staff;
  • Gweinyddu Cynllun Ymweld â’r Ddalfa yn Annibynnol;
  • Ymgynghori â’r cyhoedd a’u cynnwys;
  • Cydweithredu â heddluoedd eraill ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yw’r corff adolygu perthnasol ar gyfer y cwynion canlynol:
    • Lle Heddlu De Cymru yw’r awdurdod priodol
    • Lle nad yw’r gŵyn yn ymwneud ag ymddygiad uwch swyddog
    • Lle gall Heddlu De Cymru fodloni ei hun, o’r gŵyn yn unig, na fyddai’r ymddygiad y cwynir amdano (pe bai’n cael ei brofi) yn cyfiawnhau dwyn achos troseddol neu ddisgyblu
    • Lle nad yw’r gŵyn yn cael ei chyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

    (*yn amodol ar bleidlais atal Panel yr Heddlu a Throseddu)

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gyllid yr heddlu lleol. Bydd yn derbyn pob un o’r grantiau gan y llywodraeth a thaliadau praesept y dreth gyngor ac yn dyrannu’r gyllideb mewn ymgynghoriad â’r Prif Gwnstabl. Bydd y Prif Gwnstabl yn parhau i fod yn gyfrifol am y plismona gweithredol yn Ne Cymru. Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn gwneud hyn yn effeithiol a’i fod yn atebol i’r cyhoedd.

Mae Gorchymyn Protocol Heddlua 2011, a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref, yn gosod allan y fframwaith y bydd disgwyl i’r Comisiynydd ei ddilyn i weithio gyda’r Prif Gwnstabl a Phanel yr Heddlu a Throseddu. Diben y Gorchymyn yw gwella heddlua i gymunedau lleol ac egluro swyddogaethau pob ochr. Yn ogystal, mae’n rhoi eglurhad am swyddogaeth yr Ysgrifennydd Cartref, gwybodaeth am annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabl ac yn pennu cyfrifoldebau ariannol y Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl ill dau.

Annibyniaeth Weithredol

Wrth gyflawni ei swyddogaeth, bydd disgwyl i’r Comisiynydd weithio’n agos â’r Prif Gwnstabl, a fydd yn cadw cyfrifoldeb dros weithgareddau gweithredol a rheolaeth y Llu o ddydd i ddydd.

Mae’r Prif Gwnstabl yn gyfrifol am reoli cyllideb y Llu, penodi a diswyddo’i staff a sicrhau fod y gwasanaeth heddlua’n cael ei gyflwyno’n effeithiol er mwyn diwallu anghenion ein cymunedau.

Mae’n bwysig iawn sylweddoli, er mai gan yr Ysgrifennydd Gwladol y mae’r cyfrifoldeb cyffredinol dros heddlua, a bod y Prif Gwnstabl yn atebol i’r Comisiynydd, gan y Prif Gwnstabl y mae’r annibyniaeth weithredol o ran cyfarwyddo a rheoli’r Llu.

Cydnabyddir hyn gan y gyfraith fel y gall weithredu heb ymyrraeth wleidyddol.

Mae gofyn i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabliaid dalu sylw at y Gofyniad Heddlua Strategol wrth arfer eu swyddogaethau.Mae’r gofyniad hwn yn ymwneud â’r meysydd hynny lle mae gan y llywodraeth gyfrifoldeb dros sicrhau fod digon o allu yn ei le i ymateb i fygythiadau troseddolrwydd difrifol a thraws-ffiniol megis terfysgaeth, argyfyngau sifil, anhrefn cyhoeddus a throseddau trefnedig, ac i gefnogi gwaith asiantaethau cenedlaethol fel yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.

Nid yw’n ymwneud â meysydd lle y gall Prif Gwnstabliaid a chomisiynwr heddlu wneud asesiadau risg lleol effeithiol.