Diben:-

  • Rhoi’r hawl i ddioddefwyr a chymunedau wneud cais am adolygiad o’u hachos pan gaiff trothwy lleol ei gyrraedd, a dod ag asiantaethau at ei gilydd i ddefnyddio dull datrys problemau, cydgysylltiedig i ddod o hyd i ateb i’r dioddefwr.
  • Diogelu pobl sy’n agored i niwed – mae’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn darparu rhwyd diogelwch pwysig i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych a’r rhai mwyaf agored i niwed o bosibl.

Gall y dioddefwr, yn ogystal â pherson ar ei ran sy’n ymwybodol o’r amgylchiadau ac sy’n gweithredu gyda’i ganiatâd, roi’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar waith. Gallai hwn gynnwys aelod o’r teulu, ffrind, gofalwr, cynghorydd, Aelod Seneddol, neu weithiwr proffesiynol arall. Gall panel adolygu’r achos, cyhyd â’i fod yn bodloni meini prawf penodol. Bydd y panel adolygu yn cynnwys aelodau o sefydliadau perthnasol, a bydd yn edrych ar y cyd ar y materion y rhoddwyd gwybod amdanynt. Caiff unrhyw gamau sydd wedi cael eu cymryd i benderfynu a oedd y cam hwnnw’n ddigonol, yn seiliedig ar ddisgwyliadau ac amserlenni rhesymol eu hystyried hefyd. Bydd y panel adolygu yn gwneud argymhellion wedyn ar gyfer cymryd camau pellach er mwyn ceisio datrys y broblem.

Hoffem eich atgoffa nad yw Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn broses gwyno; os hoffech wneud cwyn am ymddygiad unigolyn, rhaid i chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno sefydliad penodol yr unigolyn hwnnw.

Gellir rhoi’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar waith os bodlonir y trothwyon canlynol:

  • Un person yn rhoi gwybod am dri achos o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o fewn chwe mis.
  • Mwy nag un person yn rhoi gwybod am bum achos o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o fewn chwe mis yn cynnwys lleoliad cysylltiedig.
  • Un person yn rhoi gwybod am un achos o drosedd casineb.

Rhoi dioddefwyr yn gyntaf: mae’r adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn darparu system i sicrhau y caiff achos dioddefwr ei adolygu er mwyn sicrhau datrysiad boddhaol. Mae’r ddeddfwriaeth yn gofyn i’r asiantaethau lleol perthnasol bennu trothwy lleol ar gyfer ysgogi’r gweithdrefnau Adolygiad Achos. Mae’n bwysig bod yr asiantaethau hyn yn sicrhau bod y dioddefwyr yn ymwybodol o’r gweithdrefnau, o dan ba amgylchiadau y gallant wneud cais am adolygiad ffurfiol, a sut i wneud hynny. Dylid hefyd ystyried sut y gall dioddefwyr fynegi orau yr effaith y mae’r ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’i chael ar eu bywydau.

Cyfranogiad – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru sy’n berchen ar borth y ffurflen gyswllt, felly caiff pob achos newydd a weithredir ei weld a’i fonitro. Bydd canfyddiadau’r adolygiad yn cau’r broses ac ni chaiff unrhyw gamau pellach eu cymryd. Fodd bynnag, mae bellach yn ofynnol i’r canlyniad gael ei gyhoeddi.

Er mwyn gweithredu Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, dilynwch y ddolen hon:

Arweinir y prosiect hwn gan Gemma Woolfe. T: 01656 869366.