Menyw a'i phlentyn ifanc ar dudalen clawr y Mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd.

Mynd i'r Afael a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd

Mynd i’r Afael a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd

Mynd i’r Afael a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd 2019 -2024

Mynd I’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd 2019-2024

Mae trais yn erbyn menywod yn cynnwys amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys cam-drin domestig, trais rhywiol, stelcio, anffurfio organau cenhedlu benywod, masnachu, a thrais ar sail “anrhydedd” fel y’i gelwir. Y gwirionedd pur yw bod menywod yn fwy tebygol o ddioddef camdriniaeth ddomestig na dynion, sy’n cyferbynnu â phob math arall o droseddau treisgar lle mae dynion yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr. Yn ystod 2022/23 rhoddwyd gwybod am 32,315 o achosion o gam-drin domestig yn Ne Cymru.

Gyda Phartneriaid a’r Prif Gwnstabl, yn ddiweddar rydym wedi datblygu Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd 2019-2024

Caiff Trais yn Erbyn Menywod a Merched ei ystyried fel blaenoriaeth yn Adroddiad Blynyddol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar 4 prif faes:

  • Gwell Cydweithio
  • Atal ac Ymyrryd yn Gynnar
  • Diogelu
  • Cyflawnwyr

Beth am drais yn erbyn dynion?

Rydym yn gwybod y gall y math hwn o gamdriniaeth effeithio ar ddynion a bechgyn hefyd a’u bod yn dioddef trais. Byddwn yn sicrhau bod yr heddlu’n parhau i gynnig y gwasanaeth a’r cymorth gorau posibl i ddioddefwyr gwrywaidd. Fodd bynnag, rydym ym gwybod mae menywod yn cael eu heffeithio’n anghymesur o ran nifer a difrifoldeb digwyddiadau a dyna pam rydym yn canolbwyntio ar drais yn erbyn menywod a merched.

Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn dweud y bydd bron i un o bob tair menyw wedi profi cam-drin domestig ar ryw adeg yn ystod eu hoes a bydd bron i un o bob pum menyw wedi profi rhyw fath o drais rhywiol.

Cyllid Ychwanegol Gwasanaethau Dioddefwyr rhwng 2021- 2025.

Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder £12 miliwn ychwanegol i ariannu Eiriolwyr Trais Domestig Annibynnol a Thrais Rhywiol a Hyrwyddir a Gwasanaethau Cymunedol rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2025. Llwyddom i gael cyllid ychwanegol ar gyfer Eiriolwyr Trais Domestig/Rhywiol Annibynnol sydd yn eu swydd ar draws rhanbarth De Cymru. Mae ein cyllid hefyd yn gweithio gyda llawer o sefydliadau i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

DRIVE

Mae Drive yn gweithio gyda chyflawnwyr sy’n achosi llawer o niwed i leihau achosion o cam-drin ac i wneud dioddefwyr/goroeswyr yn fwy diogel. Cafodd ei ddatblygu fel rhan o bartneriaeth rhwng Respect, SafeLives, a Social Finance mewn cydweithrediad â MOPAC, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, awdurdodau lleol, a darparwyr gwasanaeth. Mae Drive yn herio’r naratif canolog ynglŷn â cham-drin domestig, gan ofyn “pam nad yw’n stopio” yn hytrach na “pam nad yw hi’n gadael. Cytunodd y Comisiynydd i  ehangu’r ddarpariaeth i bob un o’r saith ardal  awdurdod lleol yn Ne Cymru.

Mae DRIVE yn parhau i wireddu buddiannau sylweddol, gan gynnwys dioddefwyr yn nodi eu bod yn teimlo’n fwy diogel, ynghŷd â llai o aildroseddu gan gyflawnwyr, yn bennaf oherwydd gallu’r asiantaethau i weithio gyda’i gilydd mewn ymyriadau cefnogol a thrwy amharu.

Ffigurau blynyddol o bob rhanbarth (Ebrill 2022-Mawrth 2023)

Rhanbarth Cyflawnwyr yr Effeithiwyd arnynt Dioddefwyr yr Effeithiwyd arnynt Plant a Phobl Ifanc yr Effeithiwyd arnynt
Caerdydd a’r Fro 126 139 235
Pen-y-bont ar Ogwr 137 147 265
Ardal Orllewinol y Bae 99 104 235
Prif gyfanswm 362 390 735

Ein Tîm

Paula Bills – Arweinydd Strategol

Megan Stevens – Uwch Swyddog Polisi

Hannah Evans-Price – Swyddog Polisi

Naomi Evans – Swyddog Polisi

Natasha Hankey – Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi