TEITL SWYDD: Swyddog Data a Gwybodaeth am Atal Trais

GRADD:  6/SO1 £32,247 – £37,692

LLEOLIAD:  Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

ORIAU: 37

CYFNOD:  12 Mis Cyfnod Penodol (Ariennir gan grant Uned Atal Trais 25/26)

FETIO: MV/SC

YN AGORED I: 31.03.2025 – 07.04.2025 12PM

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru yn chwilio am Swyddog Data a Gwybodaeth i gefnogi’r Uned Atal Trais wrth ddarparu dull a arweinir gan ddata o atal trais, ymyrryd yn gynnar a lleihau niwed. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddefnyddio data, ymchwil, ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth i lywio polisi a phenderfyniadau, gan sicrhau ymyriadau penodol ac effeithiol sy’n gyson â dull iechyd y cyhoedd.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gasglu, dadansoddi, a dehongli data o ffynonellau megis partneriaid ym maes swyddfa y Comysiynydd, plismona, iechyd, a diogelwch cymunedol er mwyn nodi tueddiadau, risgiau a gwendidau. Bydd yn arwain y gwaith o ddiweddaru Asesiad o Anghenion Strategol Trais De Cymru, gan sicrhau dealltwriaeth glir o faterion allweddol megis troseddau cyllyll, camfanteisio, defnyddio sylweddau, troseddau casineb, radicaleiddio, iechyd meddwl a thrawma.

Gan weithio’n agos gyda Byrddau Atal Trais Lleol, partneriaid Diogelwch Cymunedol a Chyfiawnder Troseddol, bydd yn helpu i ddatblygu Asesiadau o Anghenion Strategol lleol o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol, gan wella’r broes o rannu a dadansoddi data amlasiantaethol. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys llunio adroddiadau o ansawdd uchel, briffiadau, a chyflwyniadau i lywio dulliau plismona ataliol a phartneriaeth a lleihau’r galw ar gwasanaethau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad o ddadansoddi data, ymchwilio, ac adrodd ar berfformiadau, ynghyd â dealltwriaeth o atal trais, egwyddorion iechyd y cyhoedd, ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â’r gallu i drosi data cymhleth yn wybodaeth glir y gellir gweithredu arni ar gyfer amrywiaeth eang o randdeiliaid.

Mae’r rôl hon yn gyfle i gyfrannu at ddull ataliol mwy craff ar gyfer atal a lleihau trais, gan sicrhau bod ymateb De Cymru i drais yn seiliedig ar ddata, cuddwybodaeth a gwaith ymchwil cadarn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar hunangymhelliant a bydd yn gweithio’n dda mewn tîm.  Mae’r ystod helaeth y gofynion yn golygu bod angen rhywun amryddawn a chreadigol arnom.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Jones:  daniel.jones10@south-wales.police.uk

I wneud cais am y rôl hon, cwblhewch y Ffurflen Gais, Gwybodaeth Bersonol a Gwybodaeth Monitro isod, a’i hanfon i hrcommissioner@south-wales.police.uk erbyn 12yh Ddydd Llun 7fed Mawrth 2025.

Adnoddau

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Ffurflen Gais/Canllaw Comisiyinydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru