Ynghylch Ymweliadau Cymunedol
Teithiau Cerdded Cymunedol
Trefnir ymweliadau wyneb yn wyneb rheolaidd ag ardaloedd ledled De Cymru drwy’r rhaglen Teithiau Cerdded Cymunedol. Mae teithiau cerdded yn galluogi’r Comisiynydd i ymweld â gwahanol ardaloedd, sy’n aml yn cael eu heffeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu ac sydd wedi cael eu hamlygu mewn adborth gan gymunedau. Maent yn gyfle i ymgysylltu’n uniongyrchol a gwrando ar bobl yn y gymuned a gweld yn uniongyrchol sut mae gwasanaethau a mentrau a ariennir gan y Comisiynydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Bydd teithiau cerdded yn y dyfodol yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan maes o law
Gallwch ddarganfod mwy am ymgysylltiad blaenorol y Comisiynydd yma
Digwyddiadau Cymunedol
Mae tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd ardderchog i ni godi ymwybyddiaeth am rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac yn ein galluogi i ymgysylltu â phobl o bob oed.
Os ydych yn trefnu digwyddiad ac yr hoffech wahodd tîm y Comisiynydd, cysylltwch â ni – engagement@south-wales.police.uk
Cadwch lygad allan isod am y digwyddiadau y byddwn yn eu mynychu y flwyddyn hon!
Gŵyl Diwrnod Treftadaeth Tsieineaidd
I ddathlu Blwyddyn y Ddraig, mae ein tîm yn falch o gefnogi a mynychu’r digwyddiad cymunedol hwn a gynhelir gan Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru.
Pryd: Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2023, 12-4pm, Amgueddfa Sain Ffagan.
Dysgu MwyAdfest 2024
Mae ein tîm yn falch o gefnogi a mynychu AdFest, a drefnir gan Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.
Pryd: Dydd Iau 20 Mehefin, Caerdydd.
Dysgu MwyPride Cymru
Mae ein tîm yn falch o gefnogi a mynychu’r ŵyl balchder LGBTQ+ a gynhelir gan Pride Cymru.
Pryd: Dydd Sadwrn 22 Mehefin 2023, 12 – 6pm. Castell Caerdydd.
Dysgu MwyMela Caerdydd
Mae ein tîm yn falch o gefnogi a mynychu Mela Caerdydd eto eleni.
Pryd: Dydd Sul 23 Mehefin 2023, 12 – 6pm. Bae Caerdydd.
Dysgu MwyDiwrnod Hwyl i'r Teulu y Gwasanaethau Brys
Peidiwch â cholli allan ar ddiwrnod llawn hwyl lle cewch gyfle i:
- Tu ôl i lenni adrannau’r gwasanaeth brys
- Ewch i’n stondin a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau
- Cwrdd â’n masgot – Dewi y Ddraig
Pryd: Dydd Sadwrn 29 Mehefin, 10am-4pm
Dysgu MwySioe Awyr Cymru
Bydd Sioe Awyr Cymru yn dychwelyd i Fae Abertawe eleni a’n tîm yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r digwyddiad eto eleni.
Pryd: Dydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Gorffennaf, Bae Abertawe.
Dysgu Mwy