Ynghylch Dewi y Draig
Fe wnaethom gyflwyno ein masgot yn 2022 fel ffordd o ddod personoliaeth unigryw i’n hymgysylltiad â phlant a phobl ifanc, yn bersonol ac ar-lein.
Er mwyn ein helpu i enwi ein masgot, gwnaethom gynnwys plant a phobl ifanc i’n helpu i feddwl am enwau yr hoffent eu cael.
Rydym yn falch iawn o dderbyn dros 300 o enwau gwahanol. Adolygodd y Comisiynydd y dewis o enwau a dewisodd yr enw a awgrymwyd fwyaf gan blant a phobl ifanc….DEWI!
Os hoffech wahodd Dewi a’r tîm i ddigwyddiad cymunedol yr ydych yn ei drefnu, cysylltwch â ni: engagement@south-wales.police.uk
Dewi yn Cyflwyno
Yn Ne Cymru, rydym wedi datblygu menter o’r enw “Dewi yn Cyflwyno”, lle mae staff o Dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gweithio gyda chydweithwyr o Adran TGCh Heddlu De Cymru i helpu grwpiau a phrosiectau cymunedol yn Ne Cymru.
Hyd yn hyn, rydym wedi llwyddo i ailgylchu a rhoi dros 40 o ddyfeisiau llechen, 15 o liniaduron, ac rydym wrthi’n gweithio ar fentrau newydd i gefnogi grwpiau lleol ar adeg lle mae technoleg yn dod yn gynyddol bwysig.
Beth yw Gwerth Cymdeithasol?
Ym maes caffael, mae gwerth cymdeithasol yn ymwneud â sicrhau bod yr hyn rydym yn ei brynu, ar y cyfan, yn cael effaith gadarnhaol ar ein pobl a’n cymunedau. Gellir ei rannu’n dri phrif faes:
- cymdeithasol: gwella llesiant unigolion a chymunedau, gan annog pobl i ryng-gysylltu ac i helpu ei gilydd.
- economaidd: canolbwyntio ar hybu polisïau economaidd ac arferion busnes sy’n gwella llesiant cymdeithas.
- amgylcheddol: pwysleisio pwysigrwydd prosesau cynaliadwy sy’n gofalu am yr amgylchedd cymdeithasol a ffisegol, gan sicrhau dyfodol hyfyw i bawb.