TEITL SWYDD: Pennaeth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth

GRADD:  Graddfa PO 4/5  £48,894 yn codi i £54,876

LLEOLIAD:  Pencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr

ORIAU: 37

AR AGOR RHWNG: 20/12/2024  a  31/01/2025 12 PM

Cyfrifoldeb cyffredinol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yw cynnal gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon a chwarae rôl arweiniol yn y gwaith o ostwng troseddu a sicrhau diogelwch cymunedol yn ardal yr heddlu.  I’w helpu gyda hyn, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn awyddus i’r penodiad hwn fod ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dilyn ymddeoliad diweddar.

Bydd y Pennaeth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth yn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wrth ymateb i ohebiaeth, sylwadau a chwynion gan y cyhoedd. Bydd deiliad y rôl yn rheoli’r cwynion mewnol, a’r prosesau adolygu a roddwyd ar waith yn dilyn Deddf yr Heddlu a Throseddu 2017, yn monitro’r ffordd y mae Heddlu De Cymry’n delio â chwynion ac yn craffu ar y ffordd yr ymdrinnir â chwynion, fetio a materion mewnol yn ymwneud â chamymddwyn. Bydd hefyd yn ymgysylltu â Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu am faterion difrifol ac yn monitro’r ffordd y mae’r heddlu’n delio â materion o’r fath a dysgu sefydliadol.

Bydd y rôl hefyd yn cefnogi’r Prif Weithredwr a’r Comisiynydd i roi swyddogaethau statudol ar waith mewn perthynas â chydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif, er mwyn sicrhau bod gwasanaeth effeithiol ac effeithlon yn cael ei ddarparu gan yr heddlu. Bydd deiliad y rôl yn gweithredu fel y Dirprwy Swyddog Monitro.

Bydd deiliad y rôl yn gweithredu fel Swyddog Diogelu Data Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac yn gyfrifol am lofnodi ymatebion i geisiadau am Ryddid Gwybodaeth a Cheisiadau am Hawl Mynediad i Bwnc a bydd yn monitro’r ffordd y mae’r heddlu yn ymateb i geisiadau o’r fath. Gan gydweithio â’r tîm, bydd yn cynnal ymarferion hapsamplu mewn perthynas ag  amrywiaeth o feysydd gwaith a gynhelir gan wahanol adrannau yn Heddlu De Cymru.

Fel rheolwr ac arweinydd tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, bydd gofyn i ddeiliad y rôl gyfrannu at y gwaith o reoli a datblygu’r tîm ehangach yn ogystal â chynrychioli uwch-reolwyr mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ôl y gofyn.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg o fantais ond ni chaiff ei ystyried yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

I gael rhagor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Lee Jones (Prif Weithredwr) ar 01656 869366.

Cyflwynwch eich CV a’ch darn clawr ategol i hrcommissioner@south-wales.police.uk gan ddangos eich sgiliau a’ch cymwysterau ar gyfer swydd wag Pennaeth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth erbyn canol dydd 31 Ionawr 2025. Sicrhewch nad yw eich darn clawr ategol yn fwy na dwy ochr A4.

Proffil y Rol Pennaeth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth

Dewch o hyd i’r Proffil Rôl isod i’ch cynorthwyo gyda’ch cais.

Proffil y Rol Pennaeth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth