Y Comisiynydd yn ymuno â dathliadau Pride Cymru

Yn ddiweddar aeth y Comisiynydd ac aelodau o’r tîm i ddigwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd. Caiff y digwyddiad ei gynnal yng Nghastell Caerdydd a’r ardal gyfagos a’i nod yw dileu gwahaniaethu, boed hynny ar sail cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, hil, crefydd, anabledd neu nam. Mae Pride Cymru yn ymgyrchu dros gydraddoldeb a derbyn amrywiaeth yn ein cymunedau ac mae’n ymdrechu i ennyn parch at bawb.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i aelodau o dîm y Comisiynydd glywed a thrafod barn a phrofiadau o blismona, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr am y materion sy’n pryderu pobl ac adborth ar sut y gellir gwella gwasanaethau.

Dywedodd Emma Wools, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu,“Roedd yn bleser pur bod yn rhan o Pride Cymru 2024, roedd yn ddathliad gwych a chadarnhaol o amrywiaeth eang Cymru. Mae cymunedau LHDTCRhA+ ledled Cymru a thu hwnt yn wynebu casineb am fod yn nhw eu hunain o hyd. Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru sydd newydd ei henwebu, byddaf yn parhau i orymdeithio gyda’r gymuned hon a brwydro drosti am hawl y bobl hyn i fyw bywyd heb wahaniaethu.”

Llun o Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Emma Wools ac aelodau o'r tîm yn Pride Cymru yng Nghaerdydd

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Llun o'r Prif Arolygydd Prawf, aelodau o Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a'r Hyb Oedolion Ifanc yn eu swyddfeydd yn ystod yr ymweliad.

Prif Arolygydd Prawf yn ymweld â De Cymru i dynnu sylw at Ymdrechion Cydweithredol!

Go Awards Logo

Enwebiad am Wobr!

Pobl ifanc yn cymryd rhan yn ein #SgwrsLleisiauIfanc