Y Comisiynydd yn mynd i Ŵyl Mela Caerdydd

Llun o Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Emma Wools ac aelodau o'r tîm ym Mela Caerdydd

Wythnos diwethaf, aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac aelodau o’r tîm i Ŵyl Mela Caerdydd ym Mae Caerdydd. Mae’r digwyddiad yn arddangos amrywiaeth eang o ddiwylliannau, cerddoriaeth, dawns, celfyddydau, ffasiwn a bwyd. Drwy gydol y dydd, cynhaliwyd perfformiadau byw i’r ymwelwyr ac roedd gweithgareddau i’r plant ac amrywiaeth o weithdai a stondinau.

Mae tîm y Comisiynydd wedi bod yn falch o gefnogi a mynychu’r digwyddiad hwn ers sawl blwyddyn ac roedd yn awyddus unwaith eto eleni i fod yn rhan o’r dathliadau. Siaradodd y tîm â channoedd o bobl drwy gydol y dydd am rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a chafodd adborth gwerthfawr gan y rhai a oedd yn bresennol am blismona lleol.

Dywedodd Emma Wools, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a aeth i’r digwyddiad, “Mae’n bleser mynd i’r ŵyl fywiog hon lle gall pobl ddod at ei gilydd i ddathlu pob diwylliant. Mae meithrin cydberthnasau cadarnhaol â chymunedau amrywiol a cheisio gweithio gyda grwpiau a sefydliadau lleol tuag at greu gwell cydlyniant cymunedol yn flaenoriaeth i mi yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae bod yn bresennol mewn digwyddiadau cymunedol fel Gŵyl Mela Caerdydd yn rhoi cyfle gwych i mi a fy nhîm gynyddu ymwybyddiaeth o fy rôl ac, yn bwysicach fyth, roi cyfle i bobl rannu eu barn a’u profiadau â ni.”

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Beth Yw Eich Barn?

Lansio Ymgynghoriad Ar Gynllun Yr Heddlu A Throseddu

Beth sy'n pwysig i chi?

Lansio cynllun grant cymunedol ‘Dywedwch wrth Emma’

Emma Wools

Datganiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Emma Wools ar anhrefn diweddar