Mae’n Wythnos Weithredu Plismona yn y Gymdogaeth yr wythnos hon.
Mae’r wythnos i ddod yn gyfle i ddathlu’r rôl allweddol y mae timau plismona yn y gymdogaeth ar hyd a lled y wlad yn ei chwarae i gadw cymunedau’n ddiogel.
Ni ellir gorbwysleisio’r gwahaniaeth a wneir gan swyddogion lleol a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu mewn cymunedau ledled De Cymru – ac rwy’n clywed hyn yn gyson gan y bobl leol.
Dyma un enghraifft yn unig: Treuliais noson gyda’r tîm ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar er mwyn gweld sut mae ‘rygbi trefol’ yn helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardal leol. Rwyf wedi ariannu prosiect ‘TACKLE After Dark’ am ei fod yn rhoi ciplun o’r ffordd arloesol y caiff pobl ifanc eu cynnwys a sut mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, gweithwyr ieuenctid a phobl ym maes chwaraeon ym gwbwl ymrwymedig i gydweithio er mwyn datrys problemau a helpu i ddod â chymunedau ynghyd. Mae nifer o enghreifftiau ledled De Cymru.
Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ganolog i blismona yn y gymdogaeth. Eu prif rôl yw cyfathrebu, gan wrando ar y gymuned, darparu gwybodaeth i’r gymuned, ymgysylltu â phobl a dod â phobl ynghyd i ddatrys problemau lleol. Ac mae galluogi a grymuso pobl yn y gymuned leol i gydweithio i fynd i’r afael â materion lleol yn hanfodol.
Oherwydd yr ymddiriedaeth rhwng cymuned a’i Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, mae plismona yn y gymdogaeth hefyd yn chwarae rôl hanfodol wrth gasglu a datblygu cudd-wybodaeth gymunedol. Ac nid yw hyn wedi’i gyfyngu i ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel yn unig – mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am droseddau cyfundrefnol a’r achosion o drais a cham-fanteisio sydd ynghlwm â nhw.
Wrth gwrs, mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn chwarae rôl bwysig yn wynebu’r cyhoedd, ond mae’r wythnos hon hefyd yn ymwneud â dathlu a chydnabod y bobl hynny mewn rolau arbenigol nad ydynt yn cael eu cydnabod i bob pwrpas sy’n cefnogi plismona yn y gymdogaeth, y gwirfoddolwyr a’n partneriaid lu sydd i gyd yn chwarae rhan hanfodol. Fel cyn-weithiwr ieuenctid fy hun, bu’n fraint cael cyfarfod â gweithwyr ieuenctid presennol fel y rhai a welais ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac i weld y gwaith ysbrydoledig maent yn ei wneud.
Mae plismona yn y gymdogaeth wedi bod wrth wraidd Cynllun yr Heddlu a Throseddu ac mae ansawdd y timau yn Ne Cymru yn parhau i wella ac yn arwain at fentrau newydd. Cred y Prif Gwnstabl a minnau’n gryf bod plismona cymunedol effeithiol yn hanfodol i gydberthynas gwasanaeth yr heddlu â’r cyhoedd a dyna’r brif flaenoriaeth i’r heddlu wrth atal troseddau a niwed.Er gwaethaf y cyfnod anodd rydym yn ei wynebu, rydym wedi parhau i amddiffyn plismona yn y gymdogaeth a’i wneud yn flaenoriaeth – ac nid fydd hynny’n newid.
Hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’r broses o roi plismona yn y gymdogaeth ar waith – am eu hymrwymiad personol, eu gallu i feddwl y tu allan i’r bocs ac i feddwl am syniadau newydd ac am eu heffeithiolrwydd wrth gadw cymunedau ledled De Cymru yn ddiogel.
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion