2024/25 precept approved by Police and Crime Panel
Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y bydd cartrefi ledled De Cymru yn talu £2.35 neu lai yn ychwanegol am blismona yn 2024/25.
Cytunwyd ar y cynnydd yn y praesept ar ôl i Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ar y cyd â Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, gyflwyno trosolwg manwl i’r panel o’r heriau a wynebir gan yr heddlu, yn ogystal â’r camau sylweddol sydd wedi cael eu cymryd i arbed arian, buddsoddi mewn technoleg a sicrhau fod plismona gweithredol yn gweithio’n fwy effeithlon ac effeithiol.
Bydd ymateb manwl gan Banel yr Heddlu a Throseddu yn cael ei gyflwyno ar ei dudalen we.
Bydd cartrefi Band D yn talu £2.35 yn ychwanegol bob mis am blismona, ond bydd y mwyafrif, sy’n 68% o’r cartrefi yn Ne Cymru, yn talu llawer llai – rhwng tua £1.44 a £1.92 yn ychwanegol y mis. Bydd ardoll newydd y dreth gyngor yn dod â chost plismona yn Ne Cymru yn unol â’r cyfartaledd yng Nghymru.
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion